HNC Peirianneg: Peirianneg Fecanyddol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
08 Medi 2021
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Yn gryno
Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith. Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen drylwyr yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, a gydnabyddir yn genedlaethol gan gyflogwyr.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg
...yw'n well gennych gyrsiau galwedigaethol, ymarferol
...ydych yn rhifog, creadigol ac yn gallu cymell eich hun
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen drylwyr yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector.
Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:
Blwyddyn 1
- Gwyddoniaeth fecanyddol 1
- Dylunio a gweithgynhyrchu
- Mathemateg peirianneg
Blwyddyn 2
- Ymarfer proffesiynol ar gyfer peirianwyr
- Deunyddiau
- Thermohylifau
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Asesiad
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy waith cwrs ac arholiad.
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Theilyngdod/Teilyngdod
- DD mewn Safon Uwch
- Graddau DE mewn Safon Uwch, gyda gradd C Bagloriaeth Cymru
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi cael Diploma gyda 45 Llwyddo
Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn eu diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i HND Lefel 5 mewn Peirianneg Fecanyddol neu flwyddyn gyntaf/ail flwyddyn rhaglen gradd prifysgol.
Fel arall, gallwch symud ymlaen i swyddi technegwyr peirianneg.
Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CPHC0029AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 08 Medi 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau