HNC Peirianneg: Peirianneg Electronig a Thrydanol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
06 Medi 2021
Dyddiau
Dydd Llun neu Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Yn gryno
Nod y cwrs yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion diwydiant. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith, a gydnabyddir yn genedlaethol gan gyflogwyr.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg
...yw'n well gennych gyrsiau galwedigaethol, ymarferol
...ydych eisiau astudio ymhellach ym maes peirianneg
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen drylwyr yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector.
Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:
Blwyddyn 1
- Electroneg
- Technoleg drydanol
- Mathemateg peirianneg
Blwyddyn 2
- Rheolyddion rhesymeg raglenadwy
- Rheoli ac offeryniaeth
- Cyflwyniad i systemau pwer
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Asesiad
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy waith cwrs ac arholiad.
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol: Proffil Teilyngdod/Teilyngdod DD Lefel 3 BTEC perthnasol yn Lefel A. Graddau DE yn Lefel A a gradd C ym Magloriaeth Cymru. Mynediad at AU lle'r ydych wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 o Lwyddiannau a: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn eu diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch fynd ymlaen i HND Peirianneg neu Radd Sylfaen berthnasol.
Mae cyfleoedd cyflogaeth mewn llu o sefydliadau, o fusnesau rhyngwladol i gwmnïau lleol. Mae nifer o opsiynau gyrfa cyffrous, gan gynnwys:
- peiriannydd darlledu
- peiriannydd trydanol
- peiriannydd rheoli ac offeryniaeth
- peiriannydd electroneg
- peiriannydd systemau gweithgynhyrchu
Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CPHC0030AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Medi 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau