Gradd Sylfaen yn y Diwydiannau Creadigol: Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
21 Medi 2021
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- 48 pwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i AU lle rydych chi wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 Pas.
Hefyd: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai gellir ystyried oedran a phrofiad.
Yn gryno
Byddwch yn dysgu am bob agwedd o’r diwydiant cerddoriaeth, o gyfansoddi i ddefnyddio meddalwedd cerddorol, technegau recordio byw a rheolaeth sain byw.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych gariad at gerddoriaeth boblogaidd
... Ydych eisiau cwrs ymarferol a fydd yn rhoi profiad i chi
... Ydych eisiau cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth o theori
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn cael eich dysgu gan bobl broffesiynol brofiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn ac yn cymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid gwadd. Elfen bwysig o’r ail flwyddyn yw lleoliad gwaith a fydd yn eich galluogi i gael profiad go iawn a gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant.
Yn ogystal â dysgu am dechnegau meddalwedd a pherfformio, byddwch yn cael cyfle i astudio meysydd arbenigol, megis sain byw, recordio, cyfansoddi a threfnu. Byddwch yn dysgu hefyd am y diwydiant cerddoriaeth, o’i hanes at agweddau a pherfformiadau, tra’n magu sgiliau ymarfer proffesiynol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae’n bosibl y gofynnir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o’r broses ddethol.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.Proffil Teilyngdod/Teilyngdod BTEC Lefel 3
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r wybodaeth, profiad a hyder i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Fel arall, fe allech benderfynu symud ymlaen i raglen radd berthnasol. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Radd Sylfaen yn llwyddiannus yn gymwys i symud ymlaen i flwyddyn olaf y BA (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd ar Gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Breinir y cwrs yma gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw: WJ39
Cod y sefydliad: W01
Cod y campws: G
Gallwch wneud cais uniongyrchol i’r coleg neu trwy UCAS ar gyfer y cwrs yma.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0043AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 21 Medi 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau