eDdysgu - Arbenigwr Marchnata Chwilio Ardystiedig

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
eDdysgu Mae'r astudiaeth mewn dull hunan amseru, hunan drefnu gan ddefnyddio dyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Marchnata Digidol

Dyddiad Cychwyn

Cyrsiau sy'n dechrau o
01 Awst 2021

Yn gryno

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu o amgylch eu ffordd bresennol o fyw.

DMI yw'r safon fyd-eang profedig ar gyfer ardystiad marchnata digidol gyda 100,000+ o aelodau a thros 20,000+ o weithwyr proffesiynol ardystiedig.

Mae'r cwrs ar-lein marchnata chwilio arbenigol a deinamig hwn yn cynnwys optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), chwilio taledig (PPC), Google AdWords, Microsoft Ads (Bing Ads), a hysbysebu ar arddangosfeydd digidol, gan roi'r sgiliau, y wybodaeth, y strategaeth a'r technegau i chi sicrhau newid a dod yn weithiwr marchnata digidol ardystiedig gyda DMI.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.

...unrhyw un sydd eisiau cychwyn gyrfa mewn marchnata digidol.

...pobl sydd eisiau newid gyrfa.

...entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau bach.

...pobl mewn gyrfaoedd marchnata traddodiadol sydd eisiau diweddaru eu set sgiliau.

...unrhyw un sy'n gobeithio gweithredu strategaeth ddigidol ddiweddar o fewn eu cwmni.

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn archwilio'r pynciau canlynol:

  • Cyflwyniad i Farchnata Chwilio
  • Cynnwys SEO
  • Chwilio Taledig
  • Dadansoddeg gyda Google Analytics
  • Sefydlu SEO
  • Gweithdy SEO
  • Hysbysebu drwy Arddangosfeydd
  • Strategaeth a Chynllunio

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn arbenigwr marchnata digidol ardystiedig gyda DMI.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond byddwch angen diddordeb brwd yn y maes.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylech astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.

MPLA0107AA
Hyblyg

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333597/a> / 07485 314832
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau