EAL Diploma mewn Technolegau Peirianegol Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Lefel
1
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd D mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Yn gryno
Dyma gwrs lefel mynediad ym maes dynamig technoleg beirianegol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych mewn addysg lawn amser
... Ydych eisiau newid eich gyrfa
... Ydych eisiau dealltwriaeth sylfaenol o beirianneg
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n benodol er mwyn galluogi dysgwyr i symud yn eu blaen at Ddiploma EAL Lefel 2 mewn Technolegau Peirianegol.
I ennill y cymhwyster hwn, rhaid ichi gwblhau amrywiaeth o unedau gorfodol a dewisol, yn cynnwys:
- 001 Cyflwyniad i weithio yn y maes Peirianneg
- 002 Cyflwyniad i beiriannu deunyddiau peirianegol
- 003 Cyflwyniad i dorri, ffurfio a chydosod deunyddiau peirianegol
- 005 Cyflwyniad i electroneg
- 006 Cyflwyniad i waith gosod trydanol
- 007 Cyflwyniad i waith cynnal a chadw trydanol a mecanyddol
- 013 Cyflwyniad i fathemateg a gwyddoniaeth sylfaenol a ddefnyddir mewn Peirianneg
- 015 Cyflwyniad i CAD (Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur)
- 016 Cyflwyniad i CAM (Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur)
Bydd y cwrs yn caniatáu ichi weithio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianegol – cymhwyster ymarferol, seiliedig ar gymwyseddau, lle y byddwch yn cwblhau ymarferion ac asesiadau ymarferol yn y gweithdy.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio, asesiadau labordy ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma EAL Lefel 1 mewn Technolegau Peirianegol
- Her Sgiliau
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ddilyn y cwrs, byddwch angen fan leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd D a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Bydd angen ichi fod â sgiliau rhifedd, bod yn greadigol, bod â diddordeb ysol mewn peirianneg, bod â hunangymhelliant, a bod yn weithgar, yn brydlon ac yn ymrwymedig.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma EAL Lefel 2 mewn Technolegau Peirianegol
- Symud yn eich blaen at brentisiaeth addas neu waith fel technegydd mecanyddol neu dechnegydd cynnal a chadw, peiriannwr, offerwr neu ffitiwr/turniwr.
- Gwaith yn y diwydiant
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol fel hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes, ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
CFCE0266AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau