Cskills Awards Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
3
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£599
Dyddiad Cychwyn
15 Ebrill 2021
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
5 wythnos
Yn gryno
Os ydych yn gyfrifol am iechyd a diogelwch pawb ar y safle, gallai’r cwrs hwn fod yn amhrisiadwy. Mae’n rhoi canllaw i chi ar gyfer sicrhau bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud yn unol â chyfraith gyfredol, ac yn edrych ar atebolrwydd dros iechyd, diogelwch a lles y gweithwyr ar y safle.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol ac arferion gweithio diogel yn niwydiannau amgylchedd adeiledig ac adeiladu
…Unrhyw un sydd wedi neu ar fin ymgymryd â chyfrifoldebau goruchwyliol
…Deall y cyfrifoldebau cyfreithiol sy’n berthnasol i’ch gweithgareddau gwaith
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs 5-niwrnod hwn yn cwmpasu’r pynciau canlynol:
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015
- Gosodiad safle
- Asesiadau risg a datganiadau dull
- Gweithio ar uchder
- Sgaffaldiau
- Trydan
- Cloddiadau
- Dymchwel
- Gweithio mewn lleoedd cyfyng
- Newidiadau diweddar mewn arferion gwaith derbyniol
Cewch eich asesu ar eich cyfranogiad trwy gydol y cwrs, ynghyd ag arholiad 25-cwestiwn sy’n cynnwys cwestiynau amlddewis ac atebion ysgrifenedig byr. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif sy’n ddilys am 5 mlynedd.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
OHERWYDD COVID-19, BYDD Y CWRS HWN YN CAEL EI DDARPARU O BELL
Bydd angen i bawb sy'n cymryd rhan fod â chysylltiad rhyngrwyd da a gliniadur neu gyfrifiadur personol gyda swyddogaeth sain a gwe-gamera.
NSCE2764AC
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 15 Ebrill 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau