Gwaith Crosio Lefel Canolradd

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysgu ac addysg

Dull Astudio

Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)

 Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
£10

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Hydref 2020

Dyddiau

Dyddiau
Dydd Llun

Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:30

 Hyd

Hyd
30 wythnos

Yn gryno

Mae gwaith crosio lefel ganolradd wedi ei ddylunio i herio'r rhai sydd â sgiliau crosio sylfaenol ac eisiau eu gwella a'u datblygu i'r lefel nesaf. Byddwch yn edrych ar bwythi rhaff, gorffen pwythi, gornel i gornel a phatrymau mwy cymhleth. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddysgu patrymau cymhleth newydd, pwythau a thechnegau cywrain.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un gyda diddordeb mewn datblygu eu sgiliau crosio i lefel ganolradd.

Cynnwys y cwrs

Bydd y pynciau yn cynnwys:

  • Pwyth blaen / ôl
  • Pwythi rhaff
  • Dyluniad o gornel i gornel
  • Gorffen pwythau (pwytho anweledig)
  • Crosio lês
  • Patrymau cymhleth megis pwyth crocodeil

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, dim ond diddordeb yn y pwnc. Dylech fod â dealltwriaeth o:

  • Sut i grosio
  • Crosio dwbl
  • Crosio trebl
  • Cynyddu a lleihau

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn ystod wythnos 1 cewch edau gwnïo trwchus a bachyn crosio 6mm. Bydd yr eitemau isod yn ofynnol ar gyfer gwersi dilynol ac yn cael eu trafod yn ystod y sesiynau:

  • Bachau crochet o faint amrywiol
  • Gwau dwbl ac edau drwchus mewn amrywiaeth o ddeunyddiau
  • Nodwydd tapestri (neu gyfwerth) ar gyfer prosiectau gwnïo/gwehyddu tameidiau

Efallai y bydd rhaid prynu ychydig mwy o eitemau yn ystod y cwrs.

Wybodaeth am Daliadau

Oherwydd y cyfyngiadau presennol, gellir gwneud taliad drwy drosglwyddiad banc yn unig.

Bydd anfoneb yn cael ei hanfon gan salesledger@coleggwent.ac.uk o fewn 72 awr gyda chyfarwyddiadau ar sut i dalu neu drefnu rhandaliadau os oes angen.

Ble alla i astudio Gwaith Crosio Lefel Canolradd?

EPCE3195AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 05 Hydref 2020

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau