Yn gryno
Mae hwn yn gwrs hwyliog a chreadigol sy'n cynnig cyfle i chi archwilio, datblygu, dylunio, addurno a gwneud eich serameg greadigol eich hun.
...Rhywun â diddordeb brwd ym maes seramig
... Rhywun ar lefel ganolradd
... Rhywun sydd â phrofiad ac eisiau ehangu eu sgiliau.
Bob wythnos, cewch gyfle i ehangu eich profiad o waith seramig trwy roi cynnig ar ystod o dechnegau megis adeiladu â llaw, Technegau Addurniadol, mowldio gwasg a thechnegau gwydro. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau trwy arddangosiadau a chyfarwyddiadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau y gallwch chi eu datblygu ac adeiladu arnynt. Hefyd, bydd gennych chi gasgliad o ddarnau ar gyfer eich portffolio a gallwch chi fynd â nhw adref gyda chi.
Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi deimlo’n fwy hyderus a dylech chi allu defnyddio’r technegau a ddysgwyd yn ystod y cwrs i symud eich diddordeb ym maes seramig yn ei flaen.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.