Yn gryno
Dyluniwyd y cwrs hwn i ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn print a bydd y cwrs yn addas i’r dysgwyr hynny a hoffai roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau a phrosesau gwneud printiau.
... unigolion sydd â diddordeb brwd mewn gwneud printiau
...dechreuwyr pur sydd ddim wedi gwneud printiau o’r blaen
... unigolion profiadol sydd eisiau dysgu sgiliau gwneud printiau pellach
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i feysydd allweddol print:
- Monoprint
- Sychbwynt
- Leino
- Colagraff
Mae’n gwrs ymarferol, yn seiliedig ar weithdai. Mae gan y Stiwdio Argraffu ystod o weisg proffesiynol gan gynnwys Gwasg Golymbaidd yr Ynys Wen o 1890.
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.