City & Guilds Trin Gwallt Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2022
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r egwyddorion sylfaenol a’r sgiliau ymarferol uwch sydd eu hangen yn y diwydiant trin gwallt.
Dyma'r cwrs i chi os...
...rydych wedi cwblhau'r cymhwyster lefel 2
...ydych chi’n teimlo’n angerddol am wallt a harddwch
...ydych chi’n weithgar ac yn gyfeillgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y sgiliau cyflogadwyedd a ddatblygwyd ar y cwrs yn rhoi’r sgiliau i chi ddod yn entrepreneur.
Byddwch yn cwmpasu unedau fel
- Ymgynghori a chleientiaid
- Cywiro lliw a thechnegau lliw uwch
- Torri uwch a chreadigol
- Cynllunio a chyflawni technegau hyrwyddo
- Gwisgo gwallt hir yn greadigol
- Gwallt priodasol
- Torri gwallt dynion
- Iechyd a Diogelwch
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau trin gwallt canolradd ac yn eich helpu i ddatblygu mwy o dechnegau creadigol. I wneud hyn, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau megis:
- Cystadlaethau trin gwallt - Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau’r Byd
- Cyfweliadau diwydiant
- Beirniadu mewn cystadlaethau trin gwallt mewnol ar gyfer dysgwyr Lefel 1 a 2
- Mentora hyfforddeion iau
- Rhedeg colofnau trin gwallt a chyfrannu at gynhyrchu incwm yr adran
- Adeiladu sylfaen cleientiaid personol
- Siaradwyr gwadd o ddiwydiant
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu’r wybodaeth sylfaenol. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 Trin Gwallt
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael eich derbyn ar y cwrs, byddwch angen y Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar, bod â phersonoliaeth gyfeillgar a lefel uchel o gyflwyniad personol. Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.
Mae pob darpariaeth yn digwydd ar y campws a bydd un noson yr wythnos pan fyddwch chi yn y coleg tan yn hwyr. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o ofynion pwysig y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyflogaeth mewn salon, llongau teithio, fel cynrychiolwyr technegol neu yn y cyfryngau. Mae yna hefyd gyfleoedd dilyniant i raglenni addysg uwch a gradd sylfaen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cod gwisg ac ymddangosiad yn agwedd bwysig iawn ar y cwrs hwn ac rydym yn gofyn i chi gadw at y canlynol:
- Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus du ac esgidiau du synhwyrol yn y salonau
- Rhaid i wallt gael ei glymu yn daclus yn ôl o'r wyneb a rhaid gwisgo colur er mwyn creu delwedd broffesiynol
- Dim tyllau corff gweladwy
- Caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig yn y salon.
Bydd disgwyl i chi i brynu a phecyn trin gwallt ychwanegol fel amod o’ch lle ar y cwrs. Y gost am hyn yw tua £87 - £127.
I gydfynd â disgwyliadau diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent. Bydd y coleg yn talu am gost un wisg lawn bob blwyddyn. Gellir prynu setiau ychwanegol am tua £45 (i’w gadarnhau); bydd staff coleg yn gallu eich cyfeirio at y darparwr priodol os/pan fydd angen.
Gallai’r holl gostau newid.
CFDI0011AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2022
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau