City & Guilds Diploma mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Lefel
2
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd C neu uwch mewn cymhwyster Diploma Lefel 1 mewn maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd.
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn darparu’r sylfaen iawn ar gyfer gyrfa yn y maes peirianneg fecanyddol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych chi eisiau gyrfa mewn peirianneg fecanyddol
... Rydych chi eisiau sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol
... Rydych chi eisiau symud ymlaen i gyrsiau mwy datblygedig
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r pynciau craidd yn cynnwys diogelwch diwydiannol, deunyddiau a phrosesau sy’n gysylltiedig â pheirianneg, a defnyddio dulliau cyfathrebu o safon ddiwydiannol. Mae elfen peirianneg fecanyddol y cwrs hwn yn cynnwys peiriannu peirianegol, gwneud cydrannau trwy ddefnyddio offer llaw a thechnegau ffitio.
Caiff y cwrs ei gyflwyno trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Sesiynau ymarferol mewn gweithdy
- Sesiynau yn yr ystafell ddosbarth
- Gwaith myfyriwr-ganolog
- Arddangosiadau a thrafodaethau
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiad ymarferol ar gyfer mwyafrif yr unedau ynghyd ag aseiniadau ysgrifenedig er mwyn dangos eich bod yn deall. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Peirianneg Lefel 2 (Mecanyddol)
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
- 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
- Diploma lefel 1 addas a TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf)
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gwaith neu brentisiaeth yn y maes peirianneg fecanyddol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00 a hefyd bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun.
*Gweler y wefan i gael manylion llawn am Fagloriaeth Cymru
CFDI0401AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau