City & Guilds Diploma Gwallt a Harddwch Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
1
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â thrin gwallt a therapi harddwch, gan eich caniatáu i ddewis eich llwybr penodol pan fyddwch yn symud ymlaen i'r lefel nesaf.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... ydych yn greadigol
... oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwallt a harddwch
... ydych yn ansicr pa gwrs sy'n iawn i chi
Cynnwys y cwrs
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y canlynol:
- Siampw a chyflyru
- Lliw dros dro
- Plethu a steilio gwallt merched
- Gofal croen
- Manicure sylfaenol
- Colur sylfaenol a cholur ffotograffig
- Paentio wyneb
- Celf ewinedd
Darperir y cwrs drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Arddangosiadau colur a siaradwyr gwadd o'r diwydiant
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grwp
- Lleoliadau gwaith
- Teithiau ac ymweliadau
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'r wybodaeth greiddiol.
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, cyfeillgar ac yn meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu Ddiploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur (yn dibynnu ar y graddau a gafwyd yn y cwrs cyfun).
Gwisg:
- Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
- Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau ewinedd na farnais ewinedd
- Dim tlysau na gemwaith - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig
Bydd disgwyl i chi brynu gwisg a phecyn harddwch fel amod o'ch lle ar y cwrs. Bydd hyn yn costio oddeutu £300.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
CFDI0441AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau