City & Guilds Prentisiaeth Gosod Brics Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Prentisiaethau

 Lefel

Lefel
2

Dull Astudio

Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaith

 Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2018

 Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Os ydych yn awyddus i ddysgu'r sgiliau i ddod yn osodwr brics, dyma'r cwrs i chi. Byddwch yn dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i roi dechrau arbennig i'ch gyrfa adeiladu, yn ennill Diploma NVQ Lefel 2 a fydd yn eich cymryd at y cam nesaf.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... gweithio yn y diwydiant adeiladu

... gwella eich rhagolygon gyrfa a'ch potensial i ennill cyflog uwch

... eich galluogi i ennill cyflog wrth i chi ddysgu

Cynnwys y cwrs

Mae prentisiaethau'n cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y gweithle a hyfforddiant coleg, sy'n rhoi’r cyfle ichi ymarfer ac i ymgorffori sgiliau newydd mewn amgylchfyd gwaith go iawn.

 

Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs, profion, aseiniadau, arsylwadau yn seiliedig ar eich gwaith a thystiolaeth yn seiliedig ar eich gwaith, ac wrth ichi wella drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill nifer o gymwysterau fel rhan o Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2:

  • Diploma NVQ Lefel 2
  • Diploma Lefel 2
  • Cymhwyster Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
  • Cymhwyster Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
 

Wedi ichi gwblhau'r cwrs, rydym yn disgwyl ichi fod â'r gallu i ymgymryd â rôl gosod brics yn hyderus ac at lefel ansawdd y Diwydiant.

Gofynion Mynediad

I fod yn gymwys am y cwrs, bydd angen i chi fod ag o leiaf 5 gradd D neu uwch mewn TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, ac mae'n rhaid ichi fod â chyflogaeth yn y diwydiant, gyda Chytundeb Cyflogaeth ac yn cael eich talu yn ôl yr isafswm cyflog prentisiaeth genedlaethol. Mae'n ofynnol hefyd bod eich cyflogwr yn bodloni archwiliad cefndir Iechyd a Diogelwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd cwblhau'r cwrs yn eich galluogi i symud ymlaen at raglen Prentisiaeth Lefel 3. Mae ein Prentisiaeth Gosod Brics wedi ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Wybodaeth am Daliadau

Oherwydd y cyfyngiadau presennol, gellir gwneud taliad drwy drosglwyddiad banc yn unig.

Bydd anfoneb yn cael ei hanfon gan salesledger@coleggwent.ac.uk o fewn 72 awr gyda chyfarwyddiadau ar sut i dalu neu drefnu rhandaliadau os oes angen.

Ble alla i astudio City & Guilds Prentisiaeth Gosod Brics Lefel 2?

EWDI0374BB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dysgu yn y Gwaith
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2018

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau