CIPD Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£590.00
Dyddiad Cychwyn
06 Medi 2022
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
17:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Mae'r cymhwyster Tystysgrif Sylfaen hwn mewn Ymarfer Adnoddau Dynol yn rhoi cyflwyniad clir i Adnoddau Dynol. Yn ogystal â darparu cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig, bydd yn eich helpu i ennill ystod eang o sgiliau perthnasol, ymarferol y gallwch eu defnyddio yn y gweithle.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai sy’n astudio, yn dyheu am, neu’n dechrau ar, yrfa mewn ymarfer pobl.
...y rhai sy'n gweithio mewn swydd cefnogi ymarfer pobl ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a darparu gwerth uniongyrchol a thymor byr i'w sefydliad.
...y rhai sy’n dymuno datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth arbenigol sydd eu hangen i fod yn weithiwr pobl proffesiynol.
Cynnwys y cwrs
Mae’r rhaglen dystysgrif wedi’i threfnu’n fodiwlau, gydag aseiniad 1500-2000 gair ar gyfer pob modiwl. Trwy astudio’r holl fodiwlau, bydd ymgeiswyr yn cwrdd â meini prawf penodol o ran cynnwys a nifer yr oriau hyfforddi a bennir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD):
Modiwl 1 – Diwylliant Busnes a Newid mewn Cyd-destun
Modiwl 2 – Egwyddorion Dadansoddeg
Modiwl 3 - Ymddygiad Craidd ar gyfer Gweithwyr Pobl Proffesiynol
Modiwl 4 - Hanfodion Ymarfer Pobl (Recriwtio a Dethol; Rheoli Perfformiad;Hyfforddiant).
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi astudio naill ai am un diwrnod neu un noson yr wythnos am 20 neu 40 wythnos yn y drefn honno (120 awr).
Bydd angen i chi gwblhau aseiniad rhwng 1500 a 2000 gair ar gyfer pob modiwl.
Mae Tystysgrif Sylfaen CIPD yn darparu cymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ac mae'n hanfodol eich bod yn dod yn aelod o’r CIPD ar ôl i chi ddechrau astudio'r cymhwyster. Nid yw pris y cwrs yn cynnwys ffioedd cofrestru ar gyfer aelodaeth myfyriwr o’r CIPD (y mae'n rhaid eu talu'n uniongyrchol i'r CIPD).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen i astudio Diploma Cyswllt Lefel 5 mewn Rheoli Pobl.
CPCE3445AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Medi 2022
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau