Yn gryno
Mae'r cwrs undydd cyflwynol hwn yn rhoi cipolwg ar ystod o driniaethau therapi holistig â'r cyfleoedd cyffrous ar gyfer cyflogaeth sydd ar gael o fewn y diwydiant llesiant. Bydd cyfle gennych i gwrdd â thiwtoriaid wyneb yn wyneb, profi technegau therapiwtig ymarferol, ac archwilio llwybrau i ddilyn cwrs yn y coleg
- Oes diddordeb gennych mewn dechrau gyrfa ym maes therapïau holistig
- Ydych chi am fagu sgiliau ymarferol newydd
- Ydych chi'n ystyried symud ymlaen i gymwysterau Therapi Cyflenwol lefel 3
Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon, byddwch yn profi ac yn dysgu am ystod eang o driniaethau therapi cyflenwol, gan gynnwys:
- Lefel 3 Tylino Swedaidd
- Adweitheg
- Tylino Pen Indiaidd
- Tylino Pen Indiaidd
Byddwch hefyd yn:
- Dysgu am y technegau a ddefnyddir ym mhob math o therapi
- Archwilio llwybrau cynnydd a chyfleoedd am gyflogaeth
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol
- Cwrdd â thiwtoriaid profiadol a'u holi am opsiynau astudio ar gyfer y dyfodol
Er mwyn sicrhau amgylchedd dysgu proffesiynol, mae disgwyl i bob mynychwr:
- Wisgo gwisg briodol, gan gynnwys naill ai gwisg therapi neu drowsus du a blows â gwddf crwn
- Gwisgo esgidiau du sy'n wastad ac yn gyfforddus
- Cadw ewynnau'n fyr a heb farnais
- Clymu gwallt hir i ffwrdd o'r wyneb
- Sicrhau bod blew wyneb wedi'i drimio'n dwt
- Cyfranogi'n llawn i weithgareddau ymarferol drwy gydol y diwrnod
- Dod â bocs bwyd ar gyfer y sesiwn
Cyrsiau mewn 3 Lefel 3 Tylino Swedaidd, Lefel 3 Adweitheg, Lefel 3 Tylino Pen Indiaidd
Nid oes yna ofynion mynediad ffurfio ar gyfer y cwrs cyflwynol hwn. Argymhellir ichi feddu ar ddiddordeb mewn therapïau cyflenwol a llesiant.
Mae'r cwrs hwn yn gyfle ardderchog i brofi therapïau holistaidd cyn ymrwymo i ddilyn cymhwyster llawn. Mae hefyd yn rhoi arweiniad gwerthfawr ar lwybrau gyrfa o fewn y diwydiant llesiant a therapi holistig. Mae hefyd yn rhoi arweiniad gwerthfawr ar lwybrau gyrfa o fewn y diwydiant llesiant a therapi holistig.