BTEC Technegol (Diploma Estynedig) mewn Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol

 Lefel

Lefel
3

Dull Astudio

Dull Astudio
Llawn Amser

 Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2020

 Hyd

Hyd
1 flwyddyn

 Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys gradd B mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg NEU radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Yn gryno

Byddwch yn dysgu sgiliau peirianneg drydanol ac electronig trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn gadael yr ysgol gyda graddau TGAU da
... Ydych eisiau dilyn llwybr gwahanol i’r llwybr Safon Uwch traddodiadol
... Ydych yn dymuno mynd i’r brifysgol neu ddilyn prentisiaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg
  • Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Egwyddorion trydanol ac electronig
  • Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Egwyddorion dyfeisiadau a chylchedau electronig a’u defnydd
  • Technoleg drydanol
  • Gwaith gosod trydanol
  • Adeiladu a defnyddio systemau digidol
  • Chwilio am ddiffygion electronig
  • Egwyddorion electroneg analog a’u defnydd
  • Nodweddion peiriannau trydanol a’u defnydd
  • Prosiect peirianneg
  • Dewis a defnyddio rheolyddion rhaglenadwy

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Bydd pob aseiniad yn cynnwys gwahanol dasgau a gaiff eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol neu Electronig (180 credyd)
  • Gweithgareddau Sgiliau (i’ch helpu i symud yn eich blaen at waith)
  • Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C mewn Mathemateg a Saesneg TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol Gradd Teilyngdod a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.

Bydd gennych ddealltwriaeth dda o Fathemateg a Gwyddoniaeth a byddwch yn mwynhau datrys problemau cymhleth yn ymwneud â dylunio cylchedau, adeiladu a diagnosio diffygion.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, a disgwylir ichi gadw at god ymddygiad y coleg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gallwch astudio Peirianneg Drydanol/Electronig ar lefel prifysgol neu gwblhau prentisiaeth yn y sector hwn. Fel arall, gallwch ystyried swyddi sy’n arbenigo yn y math hwn o beirianneg.

Ble alla i astudio BTEC Technegol (Diploma Estynedig) mewn Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3?

CFBE0013AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2020

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau