BTEC Technoleg Gwybodaeth (Diploma Estynedig) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys nailll ai Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn anelu at gyfuno sgiliau technegol gyda sgiliau busnes, sgiliau rhyngbersonol a sgiliau rheoli prosiectau. Dyma sgiliau y mae ar bob sector sy’n defnyddio technoleg mewn amgylchedd busnes modern eu hangen, nid y sector TG yn unig.
Dyma'r cwrs i chi os...
...oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes TG
... ydych yn paratoi i astudio technoleg gwybodaeth ar lefel Addysg Uwch
... ydych eisiau meithrin sgiliau technegol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn ennill cyfuniad o wybodaeth TG a sgiliau ymarferol i fodloni gofynion technegol cyfnewidiol y diwydiant. Bydd y rhaglen yn datblygu eich sgiliau technegol yn y meysydd cymorth systemau, datblygu meddalwedd a rhwydweithio. Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio unedau craidd, ac yna’n mynd yn eich blaen yn yr ail flwyddyn i astudio cymorth systemau, rhwydweithio neu ddatblygu meddalwedd.
Byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth
- Cymwysterau ategol priodol ar gyfer ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gymraf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.
Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gradd Sylfaen mewn Diogelwch TG neu Radd Sylfaen/HND mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yng Ngholeg Gwent neu astudiaeth arall ar lefel prifysgol mewn pynciau fel cyfrifiadura, e-fasnach, creu gemau, systemau rheoli gwybodaeth neu reoli cronfeydd data.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.
NFBE0019AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau