BTEC Diploma Cyntaf mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Bydd gennych gyfle i ennill gwybodaeth eang, ynghyd â deall a datblygu sgiliau yn y sector technoleg gwybodaeth a rhai agweddau ar y sector diwydiannau creadigol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych eisiau dilyn gyrfa mewn TG
... ydych eisiau datblygu ystod o sgiliau a thechnegau, sgiliau personol a phriodoleddau a fydd yn hanfodol i lwyddiant yn eich bywyd gwaith
... oes gennych ddiddordeb ysol mewn cyfrifiadura a thechnoleg gwybodaeth
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o unedau, yn cynnwys:
- Gweithio yn y diwydiant TG
- Systemau cyfrifiadurol
- Datblygu gwefannau
- Datblygu gemau cyfrifiadurol
Caiff y cwrs ei asesu trwy gyfrwng aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, a byddwch yn ennill:
- Lefel 2 Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol
- Cymwysterau ategol priodol ar gyfer ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol, yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Swydd yn y sector TG neu astudiaeth bellach fel Diploma Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn TG.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.
NFBD0067AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau