BTEC Rhaglen Beirianneg Uwch – Mecanyddol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Prawf addasrwydd am Brentisiaeth (ymarfer sgrinio cyfannol (Skillbuilder/Vark)); a 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys: Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg, Gradd B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall, yn ddelfrydol mewn Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig. Ni dderbynnir Tystysgrifau Cyntaf neu raglenni Lefel 1.
Yn gryno
Bydd y Rhaglen Beirianneg Uwch lawn amser hon yn darparu hyfforddiant, profiad gwaith go iawn a chyfle i symud ymlaen at brentisiaeth wedi’i noddi’n llwyr.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau dilyn gyrfa mewn Peirianneg Fecanyddol
... Ydych eisiau symud ymlaen at brentisiaeth
... Hoffech gael cymysgedd o elfennau damcaniaethol ac ymarferol yn eich astudiaeth
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno’n llawn amser dros gyfnod o 36 wythnos am 30 awr yr wythnos ar gampws y coleg. Ceir rhwng 5 wythnos a 12 wythnos o leoliad profiad gwaith. Byddwch yn ymweld â nifer o’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Dyma gwrs ymarferol, cysylltiedig â gwaith, lle y byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig. Byddwch yn astudio unedau fel:
- Iechyd a diogelwch
- Cyfathrebu
- Egwyddorion mecanyddol a’u defnydd
- Mathemateg
- Prosesau gorffen/eilaidd
- Technegau mesur ac archwilio
- Drafftio gyda chymorth cyfrifiadur
- Nodweddion deunyddiau peirianegol a’u defnydd
- Arlunio peirianegol ar gyfer technegwyr
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, portffolios, arddangosiadau ac arsylwi. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:
- Lefel 3 mewn Peirianneg (Mecanyddol)
- Lefel 2 PEO (Sefydliad Cyflogwr Proffesiynol) – 6 uned a ddewisir i ategu gofynion penodol y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen ichi basio prawf dawn Prentisiaeth (ymarfer sgrinio hollbwysig (Skillbuilder/Vark)) a meddu ar:
- 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys:
- Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf,
- Gradd B mewn Mathemateg
- Tair Gradd C arall, os oes modd mewn Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig
Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg yn ofynnol, gan y bydd y cwrs hwn yn arwain at brentisiaeth. Disgwylir i bawb gadw at ethos y coleg a bod yn barod i gymryd rhan mewn o leiaf 5 wythnos o leoliad gwaith.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Prentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn cael cist offer a fydd yn werth oddeutu £200.000 ar ôl ichi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, penseli lliw, cwmpas, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.
CVDI0413AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau