BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Amaethyddiaeth, Anifeiliaid a Seiliedig ar Dir Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Amaethyddiaeth a Gofal Anifeiliaid

 Lefel

Lefel
1

Dull Astudio

Dull Astudio
Llawn Amser

 Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2020

 Hyd

Hyd
1 flwyddyn

 Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.

Yn gryno

Mae ein cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi eu cynllunio i’ch cyflwyno i’r maes astudio sydd o ddiddordeb i chi ac i’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi’n ansicr beth y dymunwch wneud
... Ydych chi’n dymuno rhoi cynnig ar fwy nac un maes galwedigaethol
... Ydych chi’n dymuno datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn y darparu ystod o gyfleoedd symud ymlaen i chi, gan gynnwys dysgu ychwanegol yn y coleg ar un o’n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!

Byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig ar fwy nac un maes galwedigaethol a magu dealltwriaeth o fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy a chwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos beth y gallwch wneud a beth rydych chi wedi ei ddysgu.

Yr un yw’r unedau craidd ar draws ein holl gyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol, fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn eich dewis faes galwedigaethol. Os oes angen i chi newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo’r unedau a astudiwyd ar y cwrs hwn i’ch un nesaf, os oes angen.

Mae’r unedau craidd y byddwch yn dilyn yn cynnwys:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc

Gall yr unedau amaethyddol ac anifeiliaid gynnwys:

  • Dysgu am y sector amaethyddol
  • Gofalu am a bwydo anifeiliaid
  • Symud a lletya anifeiliaid
  • Tyfu planhigion
  • Gofalu am a chadw planhigion yn iach
  • Defnyddio teclynnau gweithdy mewn lleoliad amaethyddol
  • Defnyddio peirianwaith amaethyddol
  • Paratoi pridd ar gyfer plannu

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol a byddwch yn ennill:

  • BTEC Lefel 1 Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad ydych chi wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y meysydd galwedigaethol gwahanol yn angenrheidiol.

Bydd angen bod yn frwdfrydig, diwyd a bodlon rhoi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol. Bydd disgwyl i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig o fewn y coleg, gan eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer yr holl sesiynau yn ofyniad gorfodol i’r cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Gallech barhau eich astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
  • Gallech symud ymlaen at brentisiaeth
  • Gallech gael swydd yn eich dewis faes

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi fod wedi cael chwistrelliad tetanws diweddar cyn dechrau gweithio gyda’r anifeiliaid.

Am resymau Iechyd a Diogelwch, bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid; wellingtons bodiau dur, oferôlau glas tywyll a bag i gario eich PPE, a chost y cyfarpar yw tua £40. Dylech brynu’r eitemau hyn cyn dechrau eich cwrs.

Ceffylau: Het farchogaeth (safonau presennol Cymdeithas Ceffylau Prydain), esgidiau buarth, jodhpurs, esgidiau marchogaeth, menig (os ydych yn marchogaeth). Mae'r costau hyn yn amrywio.

Dylid prynu'r eitemau hyn cyn dechrau eich cwrs ond byddwch yn gallu trafod y gofynion wrth gofrestru.

Efallai y bydd costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Amaethyddiaeth, Anifeiliaid a Seiliedig ar Dir Lefel 1?

UFBD0047AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2020

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau