BTEC Diploma mewn Peirianneg Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol

 Lefel

Lefel
2

Dull Astudio

Dull Astudio
Llawn Amser

 Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2020

 Hyd

Hyd
1 flwyddyn

 Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn pwnc perthnasol yn cynnwys gradd C mewn Mathemateg/Rhifedd.

Yn gryno

Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn darparu’r theori a’r profiad ymarferol hanfodol er mwyn ichi allu symud yn eich blaen at gyrsiau uwch neu chwilio am brentisiaethau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg

... Hoffech wella’r meysydd pwnc academaidd ochr yn ochr â’r cwrs hwn

... Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gyda’r buddsoddiad o £120 miliwn ym Mharc Technoleg Fodurol Glynebwy a Chylchffordd Cymru, ni fu erioed well adeg i astudio cwrs mewn peirianneg ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent.

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio;

  • Y Byd Saerniedig
  • Ymchwilio i Gynnyrch Saerniedig
  • Iechyd a Diogelwch mewn Peirianneg
  • Gwaith Cynnal a Chadw Peirianneg
  • Deunyddiau Peirianegol
  • Dehongli a Defnyddio Gwybodaeth Beirianegol
  • Mathemateg a Pheirianneg
  • Cyflwyniad i Gyfathrebu ar gyfer Peirianneg
  • Gweithredu a Chynnal a Chadw Systemau a Chydrannau Mecanyddol
  • Injans Cerbydau a Systemau Eraill
  • Technegau Cynnal a Chadw Cerbydau
  • Cydosod Peirianegol
  • Gwyddoniaeth Drydanol a Mecanyddol ar gyfer Peirianneg

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng gwaith cwrs, portffolios, arholiadau ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os na chawsoch Radd C neu uwch ar lefel TGAU byddwch yn mynychu dosbarthiadau ychwanegol)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 4 TGAU Gradd D, yn cynnwys Mathemateg Gradd C neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn pwnc perthnasol, yn cynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd Gradd C.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs a bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Dylech fod â dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg, dylech gadw at ethos y coleg a dylech fod yn barod i wella eich lefel mewn pynciau academaidd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol, BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro neu lwybrau Peirianneg Lefel 3 eraill o fewn y coleg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a defnyddiau ysgrifennu. Y gost yn fras fydd £40.00.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Peirianneg Lefel 2?

EFBD0015AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2020

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau