BTEC Cyfrifiadura Coleg Seiber Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
I gofrestru, byddwch angen lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 briodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf ar radd C neu uwch.
Bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad gyda staff addysgu ac arbenigwyr o’r diwydiant i gael mynediad i’r rhaglen.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio'n benodol ar 'Seiberddiogelwch' o fewn y cwricwlwm cyfrifiadura. Byddwch yn datblygu cyfuniad o sgiliau technegol, busnes, rhyngbersonol a rheoli prosiect sydd eu hangen, nid yn unig yn y sector cyfrifiadura, ond ym mhob sector sy'n defnyddio technoleg mewn amgylchedd busnes cyfoes. Mae'r cwrs hwn wedi ei ddyfarnu gan Pearson, wedi ei ddatblygu ymhellach ac yn cael ei gynnig mewn cydweithrediad ag Admiral, Fujitsu a Thales.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych eisiau cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol
... Yn frwd ynghylch gofynion technolegol newidiol y diwydiant
Rydych yn cael eich hysgogi gan anghenion diwydiant a chyflogwr ac yn barod am y gweithle
... Rydych eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes
...Rydych yn dymuno dilyn gyrfa neu astudiaethau pellach yn y byd Seiber neu ddiwydiannau digidol eraill
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r rhaglen wedi ei datblygu ar y cyd a chyflogwyr er mwyn datblygu eich sgiliau technegol mewn diogelwch systemau, datblygu meddalwedd, rhwydweithio, dadansoddi a dylunio systemau.
Byddwch yn astudio unedau craidd yn eich blwyddyn gyntaf, ac yna'n symud ymlaen at y Ddiploma Estynedig yn eich ail flwyddyn. Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau, a all gynnwys:
Blwyddyn 1:
- Egwyddorion cyfrifiadureg (arholiad)
- Hanfodion systemau cyfrifiadur (arholiad)
- Diogelwch ac amgryptiad systemau TG
- Cymwysiadau busnes cyfryngau cymdeithasol
- Datblygu gwefan
- Datblygu Apiau Symudol
Blwyddyn 2:
- Cynllunio a rheoli prosiectau cyfrifiadura (asesiad)
- Dylunio meddalwedd a phrosiect datblygu (asesiad)
- Effaith cyfrifiadura
- Rhyngweithio dynol a chyfrifiadurol
- Rhwydweithio cyfrifiadurol
- Rheoli a chefnogi systemau
- Dadansoddi a dylunio systemau
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau, a byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
- Gweithgareddau Sgiliau
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
- Cysylltiadau gyda chyflogwyr a chyfweliad diamod gydag Admiral ar gyfer cyflogaeth ar ddiwedd eich cwrs
- Lleoliad gwaith perthnasol a diddorol
- Cyfleoedd i gyflawni cymhwyster Venda ychwanegol fel Comptia/ CISCO/ Haciwr Moesol Ardystiedig
Y cyfle i deithio dramor ac ymgymryd â lleoliad gwaith drwy'r cynllun Erasmus plus.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.
Gall fod cyfnodau o gyfleoedd lleoliad gwaith yn codi ar ddyddiau astudio neu yn ystod y gwyliau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yn Coleg Gwent, neu ymgymryd ag astudiaethau gwahanol ar lefel brifysgol mewn pynciau fel e-fasnach, chwarae gemau, rheoli cronfeydd data a rheoli systemau gwybodaeth.
- Cyflogaeth fel is-ddatblygwr neu dechnegwr cyfrifiadur ayyb
- Prentisiaeth gyda chwmni TG neu Gyfrifiadura priodol
- Cyrsiau prifysgol mewn cyfrifiadura, dylunio gemau cyfrifiadur a fforensig cyfrifiaduron
EFBE0037CC
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau