Active IQ Tystysgrif IQ Actif mewn Cryfder a Chyflyru Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£445.00
Dyddiad Cychwyn
31 Ionawr 2023
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr allu cynllunio, paratoi, cyflwyno ac adolygu rhaglenni cryfder a chyflyru a fydd yn helpu athletwyr i gyflawni eu nodau perfformiad. Yn ystod y cymhwyster bydd dysgwyr yn ymdrin â'r canlynol:
• Rôl hyfforddwr cryfder a chyflyru fel rhan o dîm cefnogi athletwr.
• Dulliau o gynnal dadansoddiadau, mesuriadau ac asesiadau o anghenion yn ymwneud â pherfformiad.
• Strategaethau i ddadansoddi a gwerthuso canfyddiadau asesu er mwyn gallu datblygu a chytuno ar nodau perfformiad tymor byr, canolig a hir.
• Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni cryfder a chyflyru cyfnodol sy'n gysylltiedig â pherfformiad.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... hyfforddwyr personol, hyfforddwyr chwaraeon a hyfforddwyr cryfder a chyflyru.
... pawb sy'n angerddol am gefnogi cleientiaid gyda nodau sy'n seiliedig ar berfformiad.
Cynnwys y cwrs
Mae dwy uned orfodol:
- Dadansoddiad perfformiad o'r gweithgaredd a'r athletwr
- Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni cryfder a chyflyru cyfnodol sy'n gysylltiedig â pherfformiad
Bydd disgwyl i chi gyflawni lefel uchel o bresenoldeb a phrydlondeb fel rhan o'r cymhwyster hwn. Bydd angen i chi hefyd ddangos ymgysylltiad llawn ag elfennau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
Gofynion Mynediad
• Rhaid i ddysgwyr feddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (neu gyfwerth), cymhwyster Hyfforddi Lefel 3 (neu gyfwerth) neu gymhwyster Cryfder a chyflyru Lefel 3 (neu gyfwerth).
• Gall dysgwyr hefyd feddu ar gymwysterau addysg uwch neu addysg bellach perthnasol sy'n gyfwerth neu'n uwch na'r rhai a restrir uchod (e.e. ffisiotherapi, therapi chwaraeon).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cymhwyster hyfforddwr personol Lefel 4 yn ychwanegiad gwych at y cymhwyster hwn.
Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:
- Hyfforddwr cryfder a chyflyru ar gyfer clybiau/sefydliadau a/neu unigolion
UPCE3578AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 31 Ionawr 2023
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau