Active IQ Tystysgrif IQ Actif mewn Hyfforddiant Personol Uwch Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
06 Medi 2022
Hyd
17 wythnos
Yn gryno
Mae maes hyfforddiant personol ac anghenion hyfforddwyr personol proffesiynol modern yn datblygu'n gyflym yn unol ag anghenion a nodau eang y cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu. O ganlyniad, nid yw'r diwydiant erioed wedi bod yn fwy cystadleuol. Mae hyfforddwyr personol llwyddiannus yn cael eu gyrru gan ganlyniadau ac yn gwahaniaethu'n hyderus y gwasanaethau a gynigir ganddynt i ddarparu gwasanaeth moesegol a chynnal busnes hynod lwyddiannus. Er mwyn ysgogi'r llwyddiant hwn mae dull mwy gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o raglennu, hyfforddi, monitro a rheoli cleientiaid sy'n trosi i gyfraddau cadw cleientiaid yn well yn ogystal â denu cleientiaid newydd.
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi’r gwybodaeth a sgiliau i ddysgwyr ddeall eu cleientiaid yn llawn, defnyddio dull rhaglennu sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu busnes hyfforddi personol llwyddiannus a chynaliadwy.
Mae maes hyfforddiant personol ac anghenion hyfforddwyr personol proffesiynol modern yn datblygu'n gyflym yn unol ag anghenion a nodau eang y cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu. O ganlyniad, nid yw'r diwydiant erioed wedi bod yn fwy cystadleuol. Mae hyfforddwyr personol hynod lwyddiannus yn cael eu gyrru gan ganlyniadau ac yn gwahaniaethu'n hyderus y gwasanaethau a gynigir ganddynt i ddarparu gwasanaeth moesegol a chynnal busnes hynod lwyddiannus. Er mwyn ysgogi'r llwyddiant hwn mae dull mwy gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o raglennu, hyfforddi, monitro a rheoli cleientiaid sy'n trosi i gyfraddau cadw cleientiaid yn well yn ogystal â denu cleientiaid newydd.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Rydych yn teimlo fel chi moen ddatblygu eich sgiliau fel hyfforddwr personol ymhellach a darparu gwasanaeth mwy pwrpasol i'ch cleientiaid.
...Rydych am ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth fel ymarferydd hyfforddiant personol.
Cynnwys y cwrs
Mae dwy uned orfodol:
- Technegau cymhwysol i gefnogi, gwella a rheoli taith y cleient
- Symud cleientiaid ymlaen tuag at gyflawni nodau'n llwyddiannus
Bydd disgwyl i chi gyflawni lefel uchel o bresenoldeb a phrydlondeb fel rhan o'r cymhwyster hwn. Bydd angen i chi hefyd ddangos ymgysylltiad llawn ag elfennau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ddysgwyr feddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (neu gyfwerth).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i:
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Cryfder a Chyflyru.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn ymgymryd â thylino chwaraeon lefel 3 a 4 i gyd-fynd â'r cymhwyster hwn.
UPCE3577AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Medi 2022
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau