XX Ymgysylltu er mwyn Newid - Interniaeth

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

  • 16-24 oed
  • Gallu teithio’n annibynnol, gwneud cynlluniau teithio, neu’n barod i ddysgu sgiliau teithio annibynnol
  • Unigolyn ag anabledd neu anhawster dysgu, neu awtistiaeth

Awyddus i gael gwaith yn y dyfodol 

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, anableddau neu awtistiaeth. Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag interniaeth â chymorth gan weithio tuag at sicrhau cyflogaeth ran-amser neu lawn amser.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych yn cynllunio ar gyfer sicrhau cyflogaeth

... ydych eisiau datblygu sgiliau cyflogadwyedd

... ydych yn unigolyn ymroddedig sy’n barod i ymgymryd â phrofiad gwaith

... ydych yn barod i deithio i gwblhau eich lleoliad gwaith

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd cymwysterau’n cael eu teilwra ar gyfer anghenion pob intern a’u llwybrau datblygiad arfaethedig.

Mae’r meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Adeiladu perthnasoedd proffesiynol gyda chydweithwyr yn y gweithle
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad personol eich hun
  • Sut i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y gweithle
  • Dysgu beth yw’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y gweithle (Moeseg Gwaith)
  • Ymgymryd â gweithgareddau ar gyfer dewis swyddi
  • Cwblhau lleoliad gwaith 3 diwrnod o hyd oddi ar y campws

Bydd y rhaglen yn asesu pob dysgwr trwy wahanol asesiadau, gan gynnwys:

  • Arsylwi
  • Cwestiynu ar lafar
  • Tystiolaeth fideo neu ffotograffau
  • Asesiad ysgrifenedig

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Disgwylir i ddysgwyr ymrwymo’n llawn i bob agwedd o’r rhaglen. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.

Rhaid i ddysgwyr allu cynnal a mynychu pob agwedd ar leoliad gwaith.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd gan ddysgwyr y wybodaeth a'r sgiliau i symud ymlaen i gyflogaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd dysgwyr yn mynychu lleoliad gwaith 3 diwrnod yr wythnos oddi ar y campws (Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau) gyda dau ddiwrnod ar y campws (Dydd Llun a Dydd Gwener) 

Ble alla i astudio XX Ymgysylltu er mwyn Newid - Interniaeth?

CFSN0061AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr