En

Mynediad i Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol

Lefel

Lefel
Entry 3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol.

Yn gryno

Mae hwn yn gwrs lefel mynediad sydd wedi ei ddylunio i gwmpasu anghenion pob dysgwr a allai ystyried amgylchedd dosbarth cyffredin yn heriol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Nad oes gennych gymwysterau ffurfiol
... Ydych eisiau cwrs lefel mynediad
..Ydych angen amgylchedd diogel a meithringar i astudio

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os nad oes gennych unrhyw gymwysterau ffurfiol ac yn chwilio am gwrs lefel mynediad. Bydd yn fuddiol i ddysgwyr nad ydynt yn ymdopi gydag amgylchedd dosbarth cyffredin a fyddai angen cwrs cyflwyniadol i gwmpasu eu hanghenion unigol, gan ddarparu amgylchedd diogel a meithringar iddynt astudio ynddo, cyn symud ymlaen at gyrsiau Lefel 1.

Mae ystafell werdd (ystafell dawel) ar gael i ddysgwyr sydd angen seibiant o wersi neu gefnogaeth fugeiliol ychwanegol. Mae'r ystafell werdd dan oruchwyliaeth hyfforddwr dysgu sydd â phrofiad mewn cefnogaeth fugeiliol bob amser.

Bydd dysgwyr, yn ddibynnol ar eu pwnc astudio, yn derbyn diploma, tystysgrif neu ddyfarniad mewn Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol Lefel Mynediad City & Guilds.

Meysydd dan sylw:

  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Prosiectau sgiliau meddal megis adeiladu hyder, perthnasau, presenoldeb a chynhwysiad

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Ymroddiad llawn at bresenoldeb a pharch tuag at eraill yw'r nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn o’n dysgwyr ar y cwrs hwn.

Cymwysterau i'w hastudio:

  • Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol Lefel Mynediad 3
  • Cymhwyster/au cefnogi addas pan fo'n berthnasol i deilwra cynnwys y cynllun i gyrraedd anghenion penodol y gymuned, y dysgwr neu ddiwydiant

Mae pob asesiad ar sail aseiniad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyrsiau galwedigaethol Lefel 1, cyrsiau addysg neu gyrsiau hyfforddiant eraill, neu gyflogaeth a gefnogir.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.

Ble alla i astudio Mynediad i Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3?

NFSN0014AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr