En

Prif Raglen ILS

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wella eu sgiliau, i'w helpu i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned. Mae wedi'i gynllunio i helpu i feithrin hyder mewn bywyd dydd i ddydd ac i baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych eisiau gwella sgiliau rhifedd, llythrennedd a byw'n annibynnol

... oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am goginio, hamdden a chrefftau

... ydych eisiau profiad o fywyd coleg a fydd yn eich paratoi ar gyfer byw'n annibynnol a byd gwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ogystal â dysgu amrywiaeth eang o sgiliau byw'n annibynnol, bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen sy'n rhoi sylw i'r Pedair Colofn Ddysgu, sy'n ymdrin ag Iechyd a Llesiant, Cyflogadwyedd, Byw'n Annibynnol a Chyfranogiad Cymunedol. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar sail dull sy'n canolbwyntio ar y person, i ddiwallu anghenion unigol.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd dysgwyr yn cael asesiad man cychwyn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at gymwysterau cyn-alwedigaethol a/neu gyrsiau hyfforddiant/cyflogaeth gefnogol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Drwy gydol cyfnod y cwrs, bydd pob dysgwr yn cael Tiwtor Personol ac yn cael cymorth tiwtoraidd ddwywaith yr wythnos. Mae staff yn gweithio'n agos gyda dysgwyr i annog a datblygu hyder, hunan-barch a sgiliau eraill sy'n eu helpu i ddod yn fwy annibynnol.

Ble alla i astudio Prif Raglen ILS?

NFSN0062AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr