CBAC Ffotograffiaeth Safon Uwch Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
£295.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
06 Medi 2023

Dyddiau
Dyddiau
Hyd

Hyd
32 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ac sy'n dymuno datblygu ei sgiliau i safon uwch.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Ydych yn greadigol

... Ydych yn mwynhau tynnu lluniau ac eisiau ennill mwy o wybodaeth dechnegol

... Ydych eisiau dilyn gyrfa fel ffotograffydd

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn tynnu lluniau sy'n seiliedig ar ystod o bynciau ac wrth wneud hyn byddwch yn dysgu a deall egwyddorion cyfansoddiad a swyddogaethau creadigol y camera.

Yn ogystal, bydd y cwrs yn mynd i'r afael ag arfer hanesyddol a chyfoes ffotograffiaeth a magu ymwybyddiaeth o'r genres a'r cyd-destunau lu y gallwch gymhwyso ffotograffiaeth oddi mewn iddynt. Bydd gwaith creadigol gan amlaf o natur ddigidol gan ddefnyddio Photoshop, er bydd cyfleoedd i arbrofi gyda thechnegau celf gain â rendrir â llaw.

Yn ystod y tymor cyntaf ym mlwyddyn 2 (Medi i Ragfyr) anogir chi i adeiladu ar y wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o'r Lefel UG gyda'r cyfle i fynd i'r afael â phwnc ffotograffig, arddull, thema, mater neu gysyniad o'ch dewis chi (ymchwiliad personol).

Bydd gweddill y flwyddyn (Ionawr i Fai) yn cynnwys aseiniad rheoledig; sy'n gyfuniad o gwestiynau a osodir yn allanol y byddwch chi'n cynhyrchu eich ymateb cyd-destunol a chreadigol iddynt.

 

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, i gynnwys Saesneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi fod yn berchen ar gamera SLR digidol a thalu ffi stiwdio o £10.00.

Ble alla i astudio CBAC Ffotograffiaeth Safon Uwch Lefel 3?

EPAL0172A2
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Medi 2023

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr