City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r egwyddorion sylfaenol a'r sgiliau ymarferol uwch sydd eu hangen o fewn y diwydiant trin gwallt. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyflogi mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd a chynhelir yr holl asesiadau yn y gweithle.
Dyma'r cwrs i chi os...
...unrhyw un sy'n gweithio/gyflogedig mewn amgylchedd salon trin gwallt â chleientiaid rheolaidd
...y rhai sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt
...unrhyw un sydd yn frwd dros drin gwallt
...gweithwyr diwyd â sgiliau cyfathrebu da.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn edrych ar unedau fel
- Ymgynghoriadau â'r cleient
- Technegau cywiro lliw a sgiliau lliwio uwch
- Sgiliau torri uwch mewn modd creadigol
- Cynllunio a chyflwyno gweithgareddau hyrwyddo
- Trin gwallt hir mewn modd creadigol ar gyfer amrywiaeth o achlysuron
- Gwallt priodasol
- Torri gwallt dynion
- Iechyd a diogelwch
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau trin gwallt canolradd ac yn eich helpu chi i ddatblygu technegau mwy creadigol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 2 Trin Gwallt cyn cael eich derbyn ar y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyflogaeth mewn salon, llongau teithio, fel cynrychiolwyr technegol neu yn y cyfryngau. Mae yna hefyd gyfleoedd dilyniant i raglenni addysg uwch a gradd sylfaen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £140.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Ar gyfer 2023/2024 bydd y coleg yn ariannu’r gost o un wisg salon lawn. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2023/2024 yw £45.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
CPDI0011AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr