BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn anelu at gyfuno sgiliau technegol gyda sgiliau busnes, sgiliau rhyngbersonol a sgiliau rheoli prosiectau. Dyma sgiliau y mae ar bob sector sy’n defnyddio technoleg mewn amgylchedd busnes modern eu hangen, nid y sector cyfrifiadura yn unig.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych eisiau cyfuno gwybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol

... ydych yn frwd ynghylch gofynion technolegol cyfnewidiol y diwydiant

... ydych eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bwriad y rhaglen yw datblygu eich sgiliau technegol mewn diogelwch systemau, datblygu meddalwedd a dylunio gemau cyfrifiadurol.

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio unedau craidd, ac yna’n mynd yn eich blaen yn yr ail flwyddyn i astudio Diploma Estynedig. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau cyfrifiadura, a allai gynnwys:

Blwyddyn 1:

  • Egwyddorion cyfrifiadureg (arholiad)
  • Elfennau sylfaenol systemau cyfrifiadurol (arholiad)
  • Systemau TG ac amgryptio
  • Cymwysiadau busnes y cyfryngau cymdeithasol
  • Datblygu gwefannau
  • Graffigau ac animeiddio digidol

Blwyddyn 2:

  • Cynllunio a rheoli prosiectau cyfrifiadura (asesiad)
  • Prosiect dylunio a datblygu meddalwedd (asesiad)
  • Effaith cyfrifiadura
  • Datblygu gemau cyfrifiadurol
  • Rhwydweithio cyfrifiadurol
  • Datblygu cronfeydd data perthynol
  • Dadansoddi a dylunio systemau

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng gwaith cwrs ac arholidau yn y flwyddyn gyntaf a'r ail, a byddwch yn ennill:

Lefel 3 mewn Cyfrifiadura

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.

Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yng Ngholeg Gwent neu astudiaeth ar lefel prifysgol mewn pynciau fel cyfrifiadura, e-fasnach, creu gemau, systemau rheoli gwybodaeth neu reoli cronfeydd data.
  • Swydd fel is-ddatblygwr neu dechnegydd cyfrifiadurol ac ati.
  • Prentisiaeth mewn cwmni TG neu Gyfrifiadura addas.

Cyrsiau prifysgol mewn cyfrifiadureg, dylunio gemau cyfrifiadurol a gwaith fforensig ar gyfrifiaduron

 

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3?

CFBE0020AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr