En

RTITB Tryc Codi Gwrthbwyso (Categori B1) - Trosi o dryc Ymestyn

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hyfforddi gweithredwr Tryc Codi Gwrthbwyso (y cyfeirir ato'n aml fel fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc codi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal archwiliad cyn-ddefnydd, ac atgofio ac egluro achosion ansefydlogrwydd y tryc codi a’r llwyth.

Yn dilyn cyflawniad llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB (Road Transport Industry Training Board), sy'n eich galluogi i yrru peiriannau o hyd at 5 tunnell o bwysau.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Trwy gydol y cwrs byddwch yn astudio’r meysydd pwnc canlynol:

  • Cyfrifoldebau gweithredwyr o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, PUWER 98 a LOLER 98
  • Cod Diogelwch Gweithredwyr
  • Ail-wefru neu ail-lenwi Ffyrch Codi Gwrthbwyso Disel, Nwy neu Drydan
  • Gwiriadau cyn-ddefnydd
  • Ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd
  • Rheolaethau symudol a hydrolig y Fforch Godi Gwrthbwyso
  • Symud y Fforch Godi godi mewn mannau agored a chyfyng
  • Pentyrru ar wahanol lefelau
  • Dad-bentyrru gyda phaledi llwythog a di-lwyth
  • Gweithio i mewn ac allan o racio gyda'r Fforch Godi Gwrthbwyso

Bydd gofyn i chi basio prawf theori ac asesiad ymarferol er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Gofynion Mynediad

Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.

Argymhellir esgidiau diogelwch, ond nid yw hyn yn orfodol. Gan fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn yr awyr agored fe'ch cynghorir i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cwblheir y cwrs hyfforddi Gweithredwyr Trosi dros 2 ddiwrnod.

Ble alla i astudio RTITB Tryc Codi Gwrthbwyso (Categori B1) - Trosi o dryc Ymestyn?

MPLA0161AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.