SQA HGV / LGV Cludo Nwyddau Peryglus (ADR)
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Yn unol â'r cytundeb Ewropeaidd ynghylch cludo nwyddau peryglus yn rhyngwladol ar y ffordd, mae’n rhaid i yrwyr sy'n cludo sylweddau peryglus ddal cymhwyster ADR dilys.
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill trwydded ADR, sy'n ddilys am 5 mlynedd.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim, sy’n cynnig dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Cwrs a gynhelir yn y dosbarth yw hwn, sydd fel arfer yn rhedeg dros 5 diwrnod yn olynol. Bydd y cwrs yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i chi fel eich bod:
yn ymwybodol o'r peryglon o gludo nwyddau peryglus
yn gallu cymryd camau i leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau yn digwydd
yn gallu cymryd yr holl fesurau angenrheidiol dros eu diogelwch eu hunain yn ogystal â diogelwch y cyhoedd a'r amgylchedd er mwyn cyfyngu ar yr effeithiau o unrhyw ddamweiniau a fydd yn digwydd
Bydd y cwrs yn cwmpasu’r categorïau canlynol:
- Modiwlau a phecynnau craidd
- Pob dosbarth ADR, ac eithrio Ymbelydrol a Ffrwydrol
- Modiwl tanciau
Ar ddiwrnodau olaf y cwrs byddwch yn sefyll arholiadau i ddangos bod gennych y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fodloni'r cymhwyster.
Gofynion Mynediad
Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.
MPLA0157AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.