Hyfforddiant Gyrru Cerbydau Nwyddau Trwm / Cerbydau Nwyddau Mawr Categori 1 (hyd at 7.5 tunnell)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i yrru cerbydau nwyddau mawr categori C1 hyd at bwysau gros o 7.5 tunnell. Gallai’r rhain fod yn gerbydau nwyddau bach neu ambiwlansys yn y gwasanaethau brys.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gallech chi benderfynu uwchraddio eich trwydded i drwydded cerbydau nwyddau trwm C (Dosbarth 2) neu drwydded categori CE (Dosbarth 1).
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim, sy’n cynnig dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... pobl 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill yn llai na £29,534 y flwyddyn
... unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru car. Nid oes gofyniad o ran amser penodol ers i chi ennill y drwydded
... gyrwyr galluog sy’n dymuno uwchsgilio a dilyn gyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth fel gyrwyr cerbydau nwyddau
... unigolion sy’n dymuno ymuno â’r gwasanaethau brys a gyrru ambiwlans
Cynnwys y cwrs
Fel arfer, caiff hyfforddiant gyrru ymarferol ei gynnal ar sail un i un dros ddiwrnod a hanner gan gynnwys eich prawf ymarferol. Yn ystod yr amser hwn, byddwch chi’n dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbyd Categori C1 i’r safon ofynnol.
Mae’r prawf ymarferol yn cynnwys dwy ran:
- ymarferiad bacio ‘siâp S’ i mewn i fan llwytho
- gyrru ar y ffordd am 60 munud
Byddwch chi’n dychwelyd ar gyfer diwrnod ychwanegol i gwblhau eich cymhwyster Tystysgrif Gallu Proffesiynol i Yrwyr, Modiwl 4. Bydd angen y cymhwyster hwn arnoch chi i ddefnyddio eich trwydded C1 at ddibenion gwaith.
Gofynion Mynediad
Cyn yr hyfforddiant ymarferol, bydd angen i chi:
- gwblhau asesiad meddygol er mwyn cyflwyno cais am eich trwydded yrru dros dro
- pasio’r profion theori Cerbydau Nwyddau Mawr perthnasol
Caiff yr elfennau hyn eu trefnu ar eich cyfer chi.
MPLA0156AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.