AXELOS Rhithwir Ar-lein - Ymarferydd PRINCE2 Agile®

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Nod PRINCE2 Agile yw diwallu’r galw cynyddol o du’r gymuned reoli. Mae’n dwyn ynghyd ddau ddull gwahanol ar gyfer rheoli prosiectau – rhaeadr ac ystwyth.
Mae Ymarferydd PRINCE2 Agile® yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd ar y lefel Sylfaen ac yn ei chymhwyso at y gweithle, gan ddefnyddio enghreifftiau rheoli o’r byd go iawn. Caiff y cwrs ei anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylchedd prosiect, yn cynnwys staff allweddol sy’n gysylltiedig ag integreiddio gwaith rheoli prosiectau â darparu cynhyrchion.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
…y rhai y mae’n ofynnol iddynt weithio mewn amgylchedd prosiect, gyda chyfrifoldebau llywodraethu neu mewn rolau sy’n cefnogi prosiectau neu raglenni
Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs yn eich helpu i wneud y canlynol:
- Deall y cysyniadau sylfaenol sy’n perthyn i ffyrdd ystwyth o weithio
- Deall y pwrpas a’r cyd-destun ar gyfer cyfuno PRINCE2 a’r ffordd ystwyth o weithio
- Gallu cymhwyso’r meysydd ffocws at brosiectau mewn cyd-destun ystwyth, ynghyd â’u gwerthuso
- Gallu datrys ac ystwytho agweddau ar brosiectau mewn cyd-destun ystwyth
- Gallu teilwra neu gymhwyso egwyddorion, themâu, prosesau a chynhyrchion rheoli PRINCE2 at brosiectau mewn cyd-destun ystwyth
Gofynion Mynediad
I gofrestru ar gyfer y cymhwyster lefel Ymarferydd, bydd angen ichi fod wedi pasio un o’r canlynol:
- Sylfaen PRINCE2® (neu uwch)
- Sylfaen PRINCE2 Agile®
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau (PMQ)®
- Cysylltai Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)®
- Lefelau A®, B®, C® a D® IPMA (Cyfarwyddwr Prosiectau Ardystiedig)
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.
Bydd angen i chi neilltuo 2 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera.
MPLA0155AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.