AXELOS Rhithwir Ar-lein - Ymarferydd PRINCE2 Agile®

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Nod PRINCE2 Agile yw diwallu’r galw cynyddol o du’r gymuned reoli. Mae’n dwyn ynghyd ddau ddull gwahanol ar gyfer rheoli prosiectau – rhaeadr ac ystwyth.

Mae Ymarferydd PRINCE2 Agile® yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd ar y lefel Sylfaen ac yn ei chymhwyso at y gweithle, gan ddefnyddio enghreifftiau rheoli o’r byd go iawn. Caiff y cwrs ei anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylchedd prosiect, yn cynnwys staff allweddol sy’n gysylltiedig ag integreiddio gwaith rheoli prosiectau â darparu cynhyrchion.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.

…y rhai y mae’n ofynnol iddynt weithio mewn amgylchedd prosiect, gyda chyfrifoldebau llywodraethu neu mewn rolau sy’n cefnogi prosiectau neu raglenni

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Deall y cysyniadau sylfaenol sy’n perthyn i ffyrdd ystwyth o weithio
  • Deall y pwrpas a’r cyd-destun ar gyfer cyfuno PRINCE2 a’r ffordd ystwyth o weithio
  • Gallu cymhwyso’r meysydd ffocws at brosiectau mewn cyd-destun ystwyth, ynghyd â’u gwerthuso
  • Gallu datrys ac ystwytho agweddau ar brosiectau mewn cyd-destun ystwyth
  • Gallu teilwra neu gymhwyso egwyddorion, themâu, prosesau a chynhyrchion rheoli PRINCE2 at brosiectau mewn cyd-destun ystwyth

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar gyfer y cymhwyster lefel Ymarferydd, bydd angen ichi fod wedi pasio un o’r canlynol:

  • Sylfaen PRINCE2® (neu uwch)
  • Sylfaen PRINCE2 Agile®
  • Cymhwyster Rheoli Prosiectau (PMQ)®
  • Cysylltai Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)®
  • Lefelau A®, B®, C® a D® IPMA (Cyfarwyddwr Prosiectau Ardystiedig)

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein. 

Bydd angen i chi neilltuo 2 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.

Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera.

Ble alla i astudio AXELOS Rhithwir Ar-lein - Ymarferydd PRINCE2 Agile®?

MPLA0155AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.