NEBOSH Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae gan dros 200,000 o bobl Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Pam? Oherwydd hwn yw'r safon aur ymhlith cymwysterau iechyd a diogelwch.
Mae miloedd o arbenigwyr a sefydliadau blaenllaw wedi helpu diweddaru'r cymhwyster iechyd a diogelwch mwyaf uchel ei barch o'i fath yn y byd. Mae hyn yn golygu'i fod wedi'i ddylunio i adlewyrchu anghenion cyflogwr heddiw, gan roi popeth sydd ei angen i ddysgwyr greu gweithle mwy diogel iddynt.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
...unrhyw un sydd angen dealltwriaeth ddyfnach o iechyd a diogelwch yn y gweithle er mwyn datblygu eu gyrfa.
Cynnwys y cwrs
Yn berthnasol i bob gweithle, mae'r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr ac unrhyw un gyda chyfrifoldebau rheoli iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn berffaith i'r rhai sy'n cychwyn ar yrfa iechyd a diogelwch ac yn darparu cam tuag at lwyddiant.
Gan dderbyn ymddiriedaeth nifer o sefydliadau blaenllaw fel Thames Water, Kier a'r Football Association, gall fod o gymorth ar gyfer:
- Lleihau anafiadau ac anhwylderau yn y gweithle
- Hybu llesiant gweithwyr
- Dangos eich ymrwymiad i iechyd a diogelwch, a all ennill busnes
Uned NG1: Rheoli Iechyd a Diogelwch
Elfen 1- Pam y dylem reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle
Elfen 2 - Sut mae systemau iechyd a diogelwch yn gweithio a sut olwg sydd arnynt
Elfen 3 - Rheoli risg - deall pobl a phrosesau
Elfen 4 - Monitro a mesur iechyd a diogelwch
Uned NG2: Asesiad Risg
Elfen 5 - Iechyd corfforol a meddyliol
Elfen 6 - Iechyd cyhyrysgerbydol
Elfen 7 - Cyfryngau cemegol a biolegol
Elfen 8 - Materion cyffredinol yn y gweithle
Elfen 9 - Offer gwaith
Elfen 10 - Tân
Elfen 11 - Trydan
Mae'r cwrs wedi'i ddiweddaru bellach yn cynnwys dau asesiad:
Mae Uned NG1 (yn lle NGC1) yn cynnwys arholiad llyfr agored, y gallwch ei gwblhau adref. Mae Uned NG2 yn asesiad risg ymarferol, a gynhelir yn eich gweithle.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall Saesneg at safon briodol er mwyn deall a chyfleu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.
Bydd angen i chi neilltuo 9 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.
Nodwch fod arholiadau NEBOSH yn cael eu cynnal ar ddyddiadau penodol drwy'r flwyddyn
MPLA0144AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.