LIBF Rhithwir Ar-lein - Tystysgrif mewn Cyngor ac Ymarfer Morgeisi (CeMAP) - Modiwl 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Prynu ty a chael morgais yw un o'r penderfyniadau ariannol mwyaf a wnawn yn ystod ein hoes. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ceisio cyngor gan Gynghorydd Morgais proffesiynol, i drafod yr opsiwn gorau ar eu cyfer.
Rôl Cynghorydd Morgais yw helpu unigolion ddewis pa un o'r nifer o gynhyrchion, gwasanaethau a darparwyr sydd orau ar eu cyfer.
CeMAP yw’r man cychwyn ar gyfer cynghorwyr morgeisi ac, fel y cymhwyster o safon diwydiant bydd yn eich galluogi i lansio’ch gyrfa newydd.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn
...unrhyw un sydd eisiau datblygu'r wybodaeth a'r profiad sy'n ofynnol i ymgymryd â rolau yn y diwydiant gwasanaethau ariannol
..unrhyw un sy'n mwynhau gweithio gyda chwsmeriaid a darparu cyngor ac arweiniad
Cynnwys y cwrs
Ar gyfer Modiwl 1 CeMAP® byddwch yn astudio:- Uned 1: Cyflwyniad i'r Amgylchedd a Chynhyrchion Gwasanaethau Ariannol
- Uned 2: Gwasanaethau Ariannol a Rheoleiddio'r DU
Bydd y modiwl hwn yn eich dysgu sut mae deddfwriaeth a rheoliadau yn rhyngweithio
Gofynion Mynediad
Nid oes yna unrhyw ofynion ffurfiol, ond byddwch angen diddordeb brwd yn y pwnc.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.
Bydd angen i chi neilltuo 5 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.
Mae e-ddysgu hefyd wedi'i gynnwys yn y cwrs hwn, i'ch helpu chi i atgyfnerthu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth rithwir cyn sefyll eich arholiad.
Bydd angen i chi archebu'r arholiadau ar wahân gyda LIBF a hawlio’r holl gostau yn ôl gan y coleg ar ôl cwblhau’r cwrs. Mae LIBF wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'u partneriaid profi (Pearson Vue) er mwyn darparu opsiwn i fyfyrwyr sefyll eu harholiadau o bell. Mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we a meicroffon a gwe-gamera arnoch.
MPLA0141AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.