AWS Rhithwir Ar-lein - Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Dyma wawr oes y cwmwl a bydd y galw am bobl sy'n gallu gweithredu a rheoli datrysiadau cwmwl yn sicr o dyfu a thyfu o hyn ymlaen. Gyda chymaint o alw yn y sector hwn, a gyda chyfleoedd twf gyrfa rhagorol, nawr yw'r amser i hyfforddi ac ennill cymwysterau er mwyn ymuno â'r sector hwn fel gweithiwr proffesiynol.
Mae hyn yn golygu bod galw mawr am weithwyr proffesiynol Cwmwl AWS Ardystiedig, gan wneud hwn yn ddewis gyrfa ardderchog. Mae ardystiad AWS yn dilysu arbenigedd Cwmwl, gan amlygu’r sgiliau sydd gennych y mae galw amdanynt i gyflogwyr presennol a darpar gyflogwyr. Mae hefyd yn helpu sefydliadau i adeiladu timau Cwmwl arloesol ac effeithiol.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £29,534 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector TG.
...unrhyw un sy'n gweithio, neu'n anelu at weithio o fewn TG gyda ffocws penodol ar gyfrifiadura cwmwl.
Cynnwys y cwrs
Bydd yr ardystiad Ymarferydd Cwmwl AWS yn eich galluogi i:
- Ddiffinio beth yw'r Cwmwl AWS
- Disgrifio egwyddorion pensaernïol allweddol y Cwmwl AWS
- AWS
- Diffinio'r modelau Prisio, Bilio a Rheoli Cyfrifon
- Disgrifio gwasanaethau allweddol hanfodol ar y platfform AWS
- Esbonio agweddau cydymffurfio a diogelwch sylfaenol y platfform AWS a'r model diogelwch a rennir
Mae’r modiwlau y byddwch yn ymdrin â hwy yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Gysyniadau Cwmwl
- Terminoleg a Chysyniadau AWS
- Gwasanaethau sylfaenol: Amazon Elastic Compute
- Cloud (EC2), Cwmwl Preifat Rhithwir Amazon
- (VPC), Gwasanaeth Storio Syml Amazon (S3), ac
- Amazon Elastic Block Store (EBS) Gwasanaethau Craidd AWS
- Gwasanaethau cronfa ddata: Amazon DynamoDB a
- Gwasanaeth Cronfa Ddata Berthynol Amazon (RDS)
- AWS Architecting, a mwy!
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond byddai’r canlynol yn fuddiol:
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol neu ganolradd o gyfrifiadura a rhwydweithiau
- Bod yn ddysgwr cyflym
- Bod yn weithiwr caled
- Bod yn ymrwymedig i lwyddo
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol sy’n gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein
Bydd angen i chi neilltuo dau ddiwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn a bydd yn cynnwys arholiadau sy’n cael eu goruchwylio ar-lein. Mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we a meicroffon a gwe-gamera arnoch.
MPLA0140AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.