CompTIA Cloud+ (CVO-003)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae CompTIA yn ffynhonnell wybodaeth annibynnol, niwtral o ran gwerthwyr, ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau technoleg, yn cynnwys seiberddiogelwch; addysg, hyfforddiant ac ardystio’r gweithlu technoleg byd-eang; technolegau newydd a datblygol; deddfwriaethau a pholisïau sy’n effeithio ar y diwydiant a data’r gweithlu, datblygiadau a thueddiadau.
CompTIA Cloud+ yw’r unig ardystiad TG seiliedig ar berfformiad sy’n edrych ar wasanaethau seilwaith cwmwl yng nghyd-destun systemau TG ehangach, ni waeth be fo’r platfform. Mae mudo i’r cwmwl yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio, optimeiddio a diogelu storfeydd data a chymwysiadau sy’n hollbwysig i’r genhadaeth. Mae CompTIA Cloud+ yn dilysu’r sgiliau technegol sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn.
CompTIA Cloud+ yw’r unig ardystiad cwmwl a gymeradwyir ar gyfer DoD 8570.01-M, ac mae’n cynnig opsiwn seilwaith ar gyfer unigolion sydd angen ardystiad mewn IAM Lefel I a rolau Dadansoddwr CSSP a Chymorth Seilwaith CSSP.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un 19+ oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn gwaith. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £29,534 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
…peirianwyr y cwmwl sydd angen arbenigedd ar draws amryfal gynhyrchion a systemau
Cynnwys y cwrs
Drwy gydol y cwrs byddwch yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Saernïaeth a Dyluniad y Cwmwl – Dadansoddi gwahanol fodelau o’r cwmwl er mwyn llunio’r ateb gorau i ategu gofynion busnes.
- Diogelwch y Cwmwl – Rheoli a chynnal gweinyddion, yn cynnwys ffurfweddiadau OS, rheoli mynediad a chreu fersiynau rhithwir.
- Datblygu’r Cwmwl – Dadansoddi gofynion systemau er mwyn llwyddo i fudo gwaith i’r cwmwl.
- Gweithrediadau a Chymorth – Cynnal ac optimeiddio amgylcheddau’r cwmwl, yn cynnwys gweithdrefnau awtomateiddio a threfnu, gweithrediadau wrth gefn a gweithrediadau adfer, a thasgau adfer ar ôl argyfwng.
- Cywiro diffygion – Y gallu i gywiro diffygion, materion yn ymwneud ag awtomateiddio, cysylltedd a diogelwch sy’n berthnasol i weithredu’r cwmwl.
Gofynion Mynediad
Er mwyn dechrau ar y cwrs hwn, argymhellwn eich bod yn meddu ar ardystiad CompTIA Network+ a Server+ a bod gennych ddwy neu dair blynedd o brofiad yn y maes gweinyddu systemau neu’r maes rhwydweithio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylech astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera.
MPLA0139AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.