Diploma NVQ mewn Gosod Paneli Ffotofoltäig Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio fel Gosodwyr Paneli Ffotofoltäig, yn bennaf, mewn eiddo domestig. Bydd y safonau yn cynnwys pob agwedd o’r gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn gosod panel ffotofoltäig er nad yw’n cynnwys comisiynu’r gosodiad felly nid oes gofyniad am gymhwyster mewn gosodiadau trydanol i ennill y cymhwyster hwn.

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim a dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth sy’n dymuno cymryd y cam nesaf i yrfa wych

... unigolion sy’n rhan o’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn rhan o brosiectau datgarboneiddio / effeithlonrwydd ynni neu’r rhai sy’n dymuno dod yn rhan ohonynt

... y rhai sy’n gweithio yn niwydiant adeiladu ac sy’n arbenigol ym meysydd insiwleiddio a chynnal a chadw

Cynnwys y cwrs

Dylai grwpio’r unedau dewisol alluogi i bob un sydd wedi’i gyflogi yn y diwydiant gael cyfle cyfartal i ennill y cymhwyster. Er ei fod yn gymhwyster Lefel 2, efallai bydd unedau unigol ar lefelau eraill a dylai’r rhai sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn y broses gosod paneli eu dilyn nhw er mwyn i ymgeiswyr angen cyn lleied o oruchwylio wrth gyflawni’r gwaith.

Yn bennaf, bydd ymgeiswyr ar gyfer y cymhwyster hwn yn gweithio yn eiddo cwsmeriaid yn gosod Paneli Ffotofoltäig a gallai teitlau eu swyddi gynnwys:

• Gosodwr Ffotofoltäig

• Gosodwr

• Technegydd Ffotofoltäig

Cewch eich cofrestru ar system ar-lein lle gallwch chi weld eich cynnydd, cyfathrebu â’ch tiwtor/asesydd yn uniongyrchol ynghylch unrhyw beth nad ydych chi’n sicr ohono, a derbyn arweiniad drwy gydol y broses gyfan.

Ni fydd unrhyw wersi yn cael eu cynnal mewn ystafell ddosbarth, bydd eich tiwtor/asesydd yn cynnal ymweliad(au) ymarferol â’r safle. Mae’r ymweliadau â’r safle wedi’u dylunio i gael cyn lleied o effaith ar eich diwrnod gwaith.

Gofynion Mynediad

Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth bresennol a gall unrhyw gwestiynau a thrafodaeth broffesiynol gael ei chyflawni yn eich amser eich hun. Er mwyn astudio ar unrhyw gwrs NVQ, bydd angen i chi feddu ar wybodaeth flaenorol a phrofiad o’r medr/llwybr a ddewiswyd.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, bod mewn cyflogaeth a gallu cael mynediad at sefyllfa waith y gellir ei harsylwi. Efallai y bydd angen sgiliau TG sylfaenol ond nid ydynt yn hanfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gallai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn technolegau adnewyddadwy eraill megis Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer a Daear a Solar Thermol.

Ble alla i astudio Diploma NVQ mewn Gosod Paneli Ffotofoltäig Lefel 2?

MPLA0136AA
Oddi ar y safle

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.