En

GQA NVQ Diploma mewn Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau (Adeiladu) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r NVQ mewn Triniaethau Inswleiddio ac Adeiladu yn gydnabyddiaeth swyddogol o'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i inswleiddio neu i wneud gwaith cynnal a chadw adeiladau. Cewch ddewis o amrywiaeth o gymwysterau i gyd-fynd â'ch arbenigedd penodol, fel inswleiddio waliau allanol neu wahanol fathau o insiwleiddio lloriau.

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel prawf o gymhwysedd gan gwsmeriaid preifat a chleientiaid corfforaethol. Byddwch hefyd yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymhwysedd galwedigaethol fframwaith effeithlonrwydd ynni PAS2019 a 2035 a ddefnyddir yn eang ledled Prydain.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Menter gan Lywodraeth Cymru yw Cyfrif Dysgu Personol sy'n cynnig y cyfle i bobl ddilyn cyrsiau rhan-amser yn rhad ac am ddim. Cynigir dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Unrhyw un 19+ oed, sy'n byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn

... Unigolion sy'n ymwneud â'r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn ymwneud â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu'n awyddus i ymwneud â hwy.

... Y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu ac yn arbenigo mewn inswleiddio a chynnal a chadw

Cynnwys y cwrs

Mae nifer o wahanol 'lwybrau' y gallwch eu dewis ar gyfer y gwahanol grefftau sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni domestig. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i'r 'llwybrau' gorau i chi.

Byddwch yn cael eich cofrestru ar system ar-lein, lle bydd modd i chi gadw golwg ar eich cynnydd, cyfathrebu'n uniongyrchol â'ch tiwtor/aseswr ynglyn ag unrhyw beth nad ydych chi’n siwr ohono, a chael arweiniad drwy gydol y broses.

Nid oes unrhyw wersi mewn ystafell ddosbarth, dim ond ymweliad ymarferol â'r safle gwaith gan eich tiwtor/aseswr. Mae pob ymweliad â'r safle wedi'i gynllunio i effeithio cyn lleied â phosib ar eich diwrnod gwaith.

Mae Llwybrau Diploma Lefel 3 NVQ fel a ganlyn:

  • Llwybr 1 - Ystafell yn y To (Grwp RR1)
    • Inswleiddio Waliau Mewnol
    • Inswleiddio Rhannau wedi'u Fframio
  • Llwybr 1 - Ystafell yn y To (Grwp RR2)
    • Inswleiddio Atig
    • Inswleiddio To Oer
  • Llwybr 1 - Ystafell yn y To (Grwp RR3)
    • Inswleiddio Rhannau wedi'u Fframio
    • Inswleiddio To Cynnes
  • Llwybr 2 - Cartrefi mewn Parciau (Grwp PH1)
    • Gosod Wal Allanol
    • Inswleiddio Cartrefi mewn Parciau
  • Llwybr 2 - Cartrefi mewn Parciau (Grwp PH2)
    • Gosod Inswleiddio mewn Lloriau Crog
    • Chwistrellu Inswleiddio mewn Lloriau Crog
  • Llwybr 2 - Cartrefi mewn Parciau (Grwp PH3)
    • Gosod Inswleiddio/To Oer
    • Chwythu Inswleiddio/To Oer
  • Llwybr 3 - Wal Hybrid
  • Llwybr 4 - Insiwleiddio Rhannau wedi'u Fframio o Adeiladau
  • Llwybr 5 - Insiwleiddio Waliau Allanol - Gosodwr Estyll
  • Llwybr 6 - Insiwleiddio Waliau Allanol - Gorffennwr
  • Llwybr 7 - Insiwleiddio Waliau Allanol - Gosodwr Estyll a Gorffennwr
  • Llwybr 8 - Inswleiddio Mewnol (Waliau)

Gofynion Mynediad

Cewch eich asesu ar sail eich gwybodaeth gyfredol, a chewch godi unrhyw gwestiynau a chael trafodaethau proffesiynol yn eich amser eich hun. I ddilyn unrhyw NVQ dylai fod gennych chi wybodaeth a phrofiad blaenorol o'r sgil/llwybr dan sylw.

Rhaid i ymgeiswyr fod â lefel sylfaenol o lythrennedd, bod mewn swydd gyflogedig a rhaid i sefyllfa waith y gellir ei harsylwi fod ar gael i chi. Mae'n bosib y bydd angen sgiliau TG sylfaenol, ond nid ydynt yn hanfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn gymhwyster cysylltiedig â gwaith a dderbynnir yn gyffredinol. Mae'n cydnabod y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar unigolyn i wneud swydd. Mae gan NVQ le amlwg yn 'PAS 2035:2019 Ôl-ffitio anheddau i wella effeithlonrwydd ynni' ac mae'n cael ei gydnabod yn eang yn y Sector Effeithlonrwydd Ynni domestig fel prawf o gymhwysedd.

Ble alla i astudio GQA NVQ Diploma mewn Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau (Adeiladu) Lefel 3?

MPLA0135AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.