City & Guilds Gosodiadau Gwefru Cerbyd Trydan Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae gan Lywodraeth y DU darged i ddod yn economi sero net erbyn 2050. I weithio at y targed hwn, bydd cynhyrchu ceir tanwydd diesel a phetrol wedi’i wahardd o 2023 ac mae hyn yn sbarduno’r farchnad ceir trydan. Mae un o bob chwe cherbyd trydan newydd sy’n cael ei werthu yn y DU yn cynnwys plwg, felly, bydd galw cynyddol ar draws y wlad i ddarparu’r seilwaith i wefru cerbydau trydan sy’n cynnwys mannau gwefru domestig.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r uchafswm cyflog arferol o £30,596 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
... trydanwyr presennol sy’n dymuno bod yn arbenigwyr mewn gosod mannau gwefru domestig a masnachol bach ar gyfer ceir trydan. Ei nod yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth ddwysach i ddysgwyr o ran cyfarpar gwefru cerbydau trydanol, eu dyluniad a’u gosod.
Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Dulliau ychwanegol o ddiogelu yn erbyn namau dargludyddion PEN agored
- Sut i asesu a oes problem cerrynt niwtral dargyfeiriedig o ran gosodiad
- Swyddogaethau clyfar EVSE o fewn y gosodiad yn ei gyfanrwydd
- Integreiddio i osodiadau trydanol cynhyrchwr-ddefnyddiwr gan gynnwys yr opsiwn o gerbydau trydan yn bwydo yn ôl i’r gosodiad a/neu i grid y cyflenwad
Cewch eich asesu drwy gymysgedd o aseiniadau a phrofion aml-ddewis.
Gofynion Mynediad
Mae’n rhaid eich bod chi’n drydanwr cymwysedig, gweithredol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n derbyn achrediad Gwobr City & Guilds Lefel 3 mewn Dylunio a Gosod Gosodiadau Gwefru Cerbydau Trydan mewn Mannau Domestig a Masnachol Bach.
MPLA0134AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.