GQA NVQ Diploma mewn Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau (Adeiladu) Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r NVQ mewn Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau yn gydnabyddiaeth swyddogol o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i osod deunydd inswleiddio neu wneud gwaith cynnal a chadw ar adeiladau. Mae llu o gymwysterau ar gael a all gyd-fynd â’ch arbenigedd penodol, megis insiwleiddio waliau allanol neu fathau gwahanol o insiwleiddio lloriau.

Cydnabyddir y cymhwyster hwn yn gyffredinol fel tystiolaeth o allu gan gwsmeriaid preifat a chleientiaid corfforaethol. Byddwch hefyd yn cydymffurfio â gofynion cymhwysedd galwedigaethol fframwaith effeithlonrwydd ynni PAS2019&2035, sy’n cael ei ddefnyddio ledled y DU.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £29,534 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

... Unigolion sydd ynghlwm â’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes ynghlwm â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu sy’n awyddus bod ynghlwm â phrosiectau o'r fath

... Unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac sy’n arbenigo mewn insiwleiddio a chynnal a chadw

Cynnwys y cwrs

Mae amrywiaeth o ‘lwybrau’ y gallwch  eu dewis ar gyfer gwahanol grefftau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni domestig. Byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod y ‘llwybrau’ sydd fwyaf addas ar eich cyfer.

Cewch eich ymrestru ar system ar-lein, lle gallwch gadw llygad ar eich cynnydd, cyfathrebu’n uniongyrchol â thiwtor/aseswr ynghylch unrhyw beth y byddwch yn ansicr ohono a derbyn arweiniad drwy gydol yr holl broses.

Ni cheir gwersi mewn dosbarthiadau, dim ond ymweliad ymarferol ar y safle gan eich tiwtor/asesydd. Mae’r holl ymweliadau ar y safle wedi’u llunio i gael yr ymyrraeth leiaf bosibl ar eich diwrnod yn y gwaith.

Mae Llwybrau Diploma NVQ Lefel 2 fel a ganlyn:

  • Cynnal a Chadw Coed ac Atal Lleithder
  • Newid Rhwymwr Waliau
  • Insiwleiddio Waliau Ceudod
  • Insiwleiddio Lloriau Caled
  • Insiwleiddio o dan y Llawr
  • Insiwleiddio To Oer

Gofynion Mynediad

Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth gyfredol, a gellir gofyn unrhyw gwestiynau a chynnal trafodaeth broffesiynol yn ystod eich amser eich hun. Er mwyn cwblhau unrhyw NVQ, bydd angen i chi feddu ar wybodaeth flaenorol a phrofiad o’r grefft/llwybr rydych yn ei ddewis.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, yn gyflogedig a bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol, ond nid ydynt yn hanfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel cymhwyster sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’n cydnabod y sgiliau a’r wybodaeth sydd ei hangen ar unigolyn i gyflawni tasg. Mae gan NVQ le amlwg o fewn ‘Gwaith ôl-osod mewn anheddau er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni PAS 2035:2019’ ac mae'n cael ei gydnabod yn eang o fewn y Sector Effeithlonrwydd Ynni fel tystiolaeth o gymhwysedd.

Ble alla i astudio GQA NVQ Diploma mewn Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau (Adeiladu) Lefel 2?

MPLA0131AA
Oddi ar y safle

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.