HND Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth
Dyddiad Cychwyn
Yn dechrau Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o reoli digwyddiadau a'r lletygarwch cysylltiedig yn effeithiol. Mae'r cwrs yn rhoi trosolwg i chi o gyfleoedd a datblygiadau yn y sector, ac yn hwyluso datblygiad eich sgiliau sy'n gysylltiedig â hyn.
Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae'r sector yn parhau i groesawu llawer o unigolion galluog a hyderus gydag amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hwyliog a boddhaus.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un sy’n 19+ oed, ac yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn teithio, twristiaeth a lletygarwch
... Eich uchelgais yw gweithio mewn swydd uchel neu swydd reoli
... Rydych chi eisiau cymysgedd o ddysgu ymarferol a dysgu seiliedig ar theori
Cynnwys y cwrs
Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae'r sector yn parhau i groesawu llawer o unigolion galluog a hyderus gydag amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hwyliog a boddhaus.
Y modiwlau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen yw:
Blwyddyn 1 - Unedau Lefel 4:
- Digwyddiadau mewn Cyd-destun
- Egwyddorion Lletygarwch
- Y Diwydiant Twristiaeth
- Cyllid i Reolwyr
- Rheoli Pobl a Sefydliadau
- Cynllunio Datblygiad Personol
- Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
Blwyddyn 2 - Unedau Lefel 5
- Rheoli Lletygarwch Byd-eang Heddiw
- Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Dulliau Ymchwil
- Profiad Gwaith gyda Chynllunio Datblygiad Personol
- Datblygu Busnes a Chyllid
- Digwyddiadau Cymdeithasol a Chynllunio Partïon
- Datblygu a Rheoli Cyrchfan
Gofynion Mynediad
I gael lle ar y cwrs, Gwobr EDEXCEL / BTEC gyda Llwyddo neu 40 pwynt neu gyfwerth, neu brofiad perthnasol yn y diwydiant.
Croesewir ceisiadau hefyd gan ddysgwyr hyn sy'n awyddus i newid cyfeiriad eu gyrfa ac sydd â diddordeb yn y diwydiant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch barhau i orffen gradd israddedig ym maes twristiaeth, teithio, y diwydiant hamdden neu reoli digwyddiadau.
Mae eich HND yn cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd israddedig felly dylech fod yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd israddedig tair blynedd mewn maes cysylltiedig. Bydd gan wahanol brifysgolion wahanol ofynion mynediad o ran y radd sydd ei hangen arnynt yn eich HND, felly mae'n werth gwirio hyn cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu pa brifysgol yr hoffech astudio ynddi.
Fel arall, os ydych chi'n dymuno mynd yn syth i mewn i waith gyda'ch HND, fe welwch y gallwch chi wneud cais am swydd uwch neu swydd fwy arbenigol nag o'r blaen.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0119AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.