HNC mewn Technolegau Digidol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Yn dechrau Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Caiff y cwrs hyblyg hwn ei anelu at fyfyrwyr sy’n dymuno cael cyfle i ddilyn llwybr arbenigol at lefel 4, gan ennill yr wybodaeth y bydd arnynt ei hangen i gamu ymlaen at addysg bellach, addysg uwch neu waith mewn maes arbenigol. Dyma raglen ddysgu sy’n anelu at ymdrin â’r bwlch sgiliau yn y gweithlu presennol a meithrin talentau’r byd sydd ohoni er mwyn bodloni amgylchedd rhyngwladol.
Mae’r unedau Lefel 4 yn gosod y sylfaen trwy gynnig cyflwyniad bras i dechnolegau digidol a hefyd i ystod o swyddogaethau arbenigol sy’n perthyn i dechnoleg ddigidol. Bydd hyn yn meithrin ac yn cryfhau sgiliau craidd, gan baratoi’r myfyrwyr ar gyfer astudio pynciau arbenigol ar Lefel 5 neu fentro i’r byd gwaith gyda’r rhinweddau y byddant eu hangen ar gyfer rolau swyddi lle mae rhywfaint o gyfrifoldeb personol yn angenrheidiol.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac sy’n gweithio. Nid yw'r terfyn cyflog o £29,534 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
… Cymryd y cam nesaf tuag at yrfa mewn technolegau digidol
… Y rhai hynny sy’n danbaid dros weithio yn y sector digidol
Cynnwys y cwrs
Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC Lefel 4 mewn Technolegau Digidol
Braslun o’r cwrs:
Uned 1: Ymarfer Proffesiynol yn yr Economi Ddigidol
Uned 2: Arloesi a Thrawsnewid Digidol
Ynghyd â 90 credyd o’r Gronfa Ddewisol ar gyfer Lefel 4
Gall yr opsiynau gynnwys:
- Rhwydweithio
- Seiberddiogelwch
- Diogelwch
- Data Mawr a Delweddu
- Rhaglennu
- Rhwydweithio yn y Cwmwl
- Hanfodion y Cwmwl
- Dylunio a Datblygu Cronfeydd Data
- Cylch Oes Datblygu Meddalwedd
- Dadansoddeg Data
- Animeiddio
- Datblygu Gemau
- Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Systemau Deallusrwydd Artiffisial
- Dylunio a Datblygu Gwefannau
- Rheoli yn yr Economi Ddigidol
- Rheoli Prosiectau
Bydd y myfyrwyr yn ennill ystod eang o wybodaeth, ynghyd â sgiliau ymarferol a enillir trwy ymchwil, astudiaeth annibynnol, astudiaeth dan gyfarwyddyd a senarios yn y gweithle. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau galwedigaethol a fydd yn eu helpu i feithrin ymddygiad galwedigaethol (yr agweddau a’r dulliau sy’n angenrheidiol ar gyfer cymhwysedd) ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy. Sgiliau trosglwyddadwy yw sgiliau fel cyfathrebu, gweithio mewn tîm, ymchwilio a dadansoddi – sgiliau a gaiff eu mawrbrisio mewn addysg uwch a hefyd yn y gweithle.
Ar ôl astudio Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Technolegau Digidol, bydd gan y myfyrwyr wybodaeth dda am y cysyniadau elfennol sy’n perthyn i dechnoleg ddigidol. Byddant yn gymwys mewn amrywiaeth o sgiliau a fydd yn ymwneud yn benodol â’r pwnc, yn ogystal â sgiliau cyffredinol a rhinweddau a fydd yn berthnasol i feysydd hollbwysig yn ymwneud â thechnoleg ddigidol.
Bydd modd i raddedigion a fydd yn llwyddo i gwblhau Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC Pearson mewn Technolegau Digidol ddangos gwybodaeth dda am y cysyniadau elfennol. Bydd modd iddynt gyfathrebu’n gywir ac yn briodol, a byddant yn meddu ar y rhinweddau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer y byd gwaith, lle bydd rhywfaint o gyfrifoldeb personol yn angenrheidiol.
Byddant wedi meithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy er mwyn sicrhau gwaith tîm effeithiol, mentrau annibynnol, cymhwysedd sefydliadol a strategaethau datrys problemau. Byddant yn ystwyth ac yn hyblyg o ran eu dull o ymdrin â thechnolegau digidol, byddant yn dangos gwytnwch dan bwysau, a byddant yn cyflawni targedau llawn her o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddynt.
Gofynion Mynediad
Ni fydd angen profiad blaenorol.
Ni fydd angen bodloni unrhyw ofynion mynediad ffurfiol eraill i fynd i’r afael â’r cwrs hwn.
Bydd addasrwydd y dysgwyr i astudio’r cwrs yn cael ei ystyried yn ystod y broses gyfweld.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs hwn wyneb yn wyneb a thrwy Microsoft Teams.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys asesiadau ffurfiol ac efallai y bydd angen sefyll arholiadau.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0117AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.