En

IEMA Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
eDdysgu Mae'r astudiaeth mewn dull hunan amseru, hunan drefnu gan ddefnyddio dyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd.
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r ymgyrch tuag at fusnes cynaliadwy wedi agor byd hollol newydd o gyfleoedd – a’r Dystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yw eich ffordd i mewn.

Byddwch yn gallu datblygu’r sgiliau rheoli hanfodol i helpu’ch busnes a’ch cymuned i ddod yn fwy cynaliadwy. Ennillwch eich aelodaeth Cyswllt (AIEMA) gydag IEMA.

Yr IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen o wybodaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd i chi adeiladu arni ac yn arwain yn uniongyrchol at fod yn Aelod Cyswllt o’r IEMA.

Mae’r Dystysgrif Sylfaen IEMA ar gyfer unrhyw un sydd am gael effaith mewn swydd amgylcheddol neu gynaliadwyedd. Mae'n canolbwyntio ar reolaeth amgylcheddol, felly mae'n berffaith os ydych chi'n dechrau yn y maes, o fod yn gyfrifol am gasglu a choladu data amgylcheddol neu gynaliadwyedd hyd at ddarparu gwiriadau rheolaidd ar fesurau deddfwriaethol neu atal llygredd.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

UNEDAU

Elfen 1 - Egwyddorion Amgylcheddol Craidd
Elfen 2 - Cynaladwyedd a mega-dueddiadau
Elfen 3 - Polisi a deddfwriaeth
Elfen 4 - Systemau Rheoli Amgylcheddol
Elfen 5 - Gwerthuso perfformiad
Elfen 6 - Offer rheoli ac asesu ychwanegol
Elfen 7 - Cyfathrebu a rheoli newid

ASESIADAU

Asesir y Dystysgrif Sylfaen IEMA gyda phrawf amlddewis ar-lein llyfr agored 1 awr o hyd a gynhelir gan yr IEMA.

Mae'r asesiad yn rhedeg yn fisol, a byddwch yn cael cyfnod cyflwyno o 28 diwrnod, fel arfer o’r 3ydd tan y 28fed o’r mis.

Mae yna 30 cwestiwn, mae angen i chi ateb 21 yn gywir er mwyn pasio'r cwrs.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag mae'n bwysig bod gan ddysgwyr safon addas o Saesneg er mwyn deall a chyfleu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur. Nid oes angen unrhyw brofiad na gwybodaeth flaenorol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylai fod gennych y cymhelliant i astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.

Mae'r cwrs yn cynnwys arholiad a orchwylir ar-lein, a bydd angen i chi fod gyda mynediad at ddyfais gyda’r rhyngrwyd wedi’i galluogi, meicroffon a gwe-gamera.

Hyd y cwrs yw tua 40 awr a darperir mynediad ar-lein am 6 mis (gan gynnwys sefyll yr arholiad).
Ble alla i astudio IEMA Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol?

MPLA0114AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.