EnCO Rheoli Ynni ar gyfer Busnes - perchennog busnes

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
eDdysgu Mae'r astudiaeth mewn dull hunan amseru, hunan drefnu gan ddefnyddio dyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Nod y cwrs hwn yw galluogi perchnogion busnes i leihau defnydd a chostau ynni yn ogystal ag allyriadau carbon, drwy eu cyfarparu i allu rhoi technegau ac egwyddorion rheoli ynni ar waith.

Mae'r cwrs wedi ei achredu gan y fenter EnCO. Nod EnCO yw ymgysylltu, cyfarparu a grymuso sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ynni er mwyn gallu gwneud arbedion ynni sylweddol drwy bobl.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un 19+ oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn gwaith. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £29,534 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

... unigolion sydd eisiau cymryd rhan yn y datblygiad tuag at Sero Net, un ai fel gweithiwr sy'n ystyrlon o ynni neu fel perchennog busnes.

... unrhyw un sy'n gobeithio gweithredu strategaeth ynni ddiweddar o fewn ei fusnes.

... unrhyw un sy'n dymuno dechrau gyrfa yn y maes rheoli ynni a dod yn ymgynghorwr neu ymarferydd cynaliadwyedd.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Cyngor ar yr Argyfwng Ynni
  • Data a Rheoli Ynni
  • Gweithredu Ymyriadau Arbed Ynni
  • Arfer Gorau Cynaliadwy

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • arddangos dealltwriaeth o rôl datgarboneiddio ar gyfer busnes
  • arddangos a mynegi cysyniadau cyffredinol a materion ymarferol mewn perthynas â Sero Net (carbon)
  • cymhwyso cysyniadau allweddol rheoli ynni mewn busnes
  • cymhwyso gwybodaeth a enillir drwy safon diwydiant-benodol ENCO i fusnes

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi'ch ardystio gan EnCO fel unigolyn sy'n ystyrlon o ynni.

Gofynion Mynediad

Er mwyn ymgymryd â'r cwrs, bydd angen ichi fod â diddordeb gweithredol mewn materion Sero Net ac awydd i ddysgu am ffyrdd allwch chi wneud newidiadau cadarnhaol yn eich gweithle.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylai fod gennych y cymhelliant i astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.

Ar gyfer perchnogion busnes, mae hyn yn cynnwys dysgu unigol yn ogystal â lefel o gyfranogiad grwp ar-lein ac ymgysylltu â pherchnogion busnes eraill.

Rhaid cwblhau'r cwrs 3 mis ar ôl y dyddiad dechrau.

Ble alla i astudio EnCO Rheoli Ynni ar gyfer Busnes - perchennog busnes?

MPLA0111AA
Hyblyg

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.