EnCO Rheoli Ynni ar gyfer Busnes - perchennog busnes
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw galluogi perchnogion busnes i leihau defnydd a chostau ynni yn ogystal ag allyriadau carbon, drwy eu cyfarparu i allu rhoi technegau ac egwyddorion rheoli ynni ar waith.
Mae'r cwrs wedi ei achredu gan y fenter EnCO. Nod EnCO yw ymgysylltu, cyfarparu a grymuso sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ynni er mwyn gallu gwneud arbedion ynni sylweddol drwy bobl.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y modiwlau canlynol:
- Cyngor ar yr Argyfwng Ynni
- Data a Rheoli Ynni
- Gweithredu Ymyriadau Arbed Ynni
- Arfer Gorau Cynaliadwy
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
- arddangos dealltwriaeth o rôl datgarboneiddio ar gyfer busnes
- arddangos a mynegi cysyniadau cyffredinol a materion ymarferol mewn perthynas â Sero Net (carbon)
- cymhwyso cysyniadau allweddol rheoli ynni mewn busnes
- cymhwyso gwybodaeth a enillir drwy safon diwydiant-benodol ENCO i fusnes
Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi'ch ardystio gan EnCO fel unigolyn sy'n ystyrlon o ynni.
Gofynion Mynediad
Er mwyn ymgymryd â'r cwrs, bydd angen ichi fod â diddordeb gweithredol mewn materion Sero Net ac awydd i ddysgu am ffyrdd allwch chi wneud newidiadau cadarnhaol yn eich gweithle.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylai fod gennych y cymhelliant i astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.
Ar gyfer perchnogion busnes, mae hyn yn cynnwys dysgu unigol yn ogystal â lefel o gyfranogiad grwp ar-lein ac ymgysylltu â pherchnogion busnes eraill.
Rhaid cwblhau'r cwrs 3 mis ar ôl y dyddiad dechrau.
MPLA0111AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.