DMI eDdysgu - Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Digidol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
DMI yw'r safon fyd-eang profedig ar gyfer ardystiad marchnata digidol gyda 100,000+ o aelodau a thros 20,000+ o weithwyr proffesiynol ardystiedig.
Mae'r cwrs marchnata digidol cynhwysfawr hwn yn addysgu'r sgiliau marchnata digidol allweddol sydd eu hangen yn y gweithle modern. Dysgwch am Google Ads, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol ac optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), Google Analytics, marchnata ar ddyfeisiau symudol a mwy, a gallwch ddod yn arbenigwr marchnata digidol ardystiedig gyda DMI.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
...unrhyw un sydd eisiau dechrau gyrfa mewn marchnata digidol.
...pobl sydd eisiau newid gyrfa.
...entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau bach.
...pobl mewn gyrfaoedd marchnata traddodiadol sydd eisiau diweddaru eu set sgiliau.
...unrhyw un sy'n gobeithio gweithredu strategaeth ddigidol ddiweddar o fewn eu cwmni.
Cynnwys y cwrs
Yn y Cyflwyniad i Farchnata Digidol, byddwch yn astudio:
- Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol
- Chwilio Taledig (cost fesul clic) gan ddefnyddio Google Ads
- Marchnata trwy E-bost
- Dadansoddeg gyda Google Analytics
- Marchnata Cynnwys
- Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
- Hysbysebu ar Arddangosfeydd ac mewn Fideos
- Optimeiddio Gwefannau
- Strategaeth Farchnata Ddigidol
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond byddwch angen diddordeb brwd yn y maes.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylech astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera arnoch.
MPLA0105AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.