IOSH Rhithwir Ar-lein - Gweithio'n Ddiogel

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu o amgylch eu ffordd bresennol o fyw.
IOSH yw'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Dyma'r corff aelodaeth iechyd a diogelwch mwyaf yn y byd gydag aelodau ledled Ewrop.
Bob blwyddyn, mae bron i 120,000 o bobl o ystod o wahanol ddiwydiannau yn mynychu cyrsiau hyfforddi IOSH.
Mae hyfforddiant IOSH yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac yn uchel ei barch, gan ei wneud yn ychwanegiad rhagorol at restr achrediadau unrhyw weithiwr.
Mae'r cwrs lefel mynediad cydnabyddedig hwn yn helpu hyrwyddo dealltwriaeth sylfaenol o arferion iechyd a diogelwch, a all gael ei ddefnyddio i ddatblygu eich hyfforddiant fel gweithiwr ymhellach neu adnewyddu eich gwybodaeth.
Gall hefyd helpu gyda'ch canlyniadau hyfforddiant wrth i chi geisio symud ymlaen yn y sector o'ch dewis.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
...unrhyw un nad yw mewn rôl reoli ar hyn o bryd, ond sydd angen ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Cynnwys y cwrs
Rhennir deunydd y cwrs Gweithio'n Ddiogel yn chwe uned wahanol:
- Cyflwyniad cwrs
- Pam ei bod hi'n bwysig gweithio'n ddiogel
- Gwella perfformiad diogelwch
- Yr amgylchedd
- Cwestiynau Amlddewis
- Asesiad o Beryglon
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys ardystiad ac aelodaeth IOSH.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall Saesneg at safon briodol er mwyn deall a chyfleu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs hwn mewn ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Bydd angen i chi neilltuo 1 diwrnod er mwyn mynychu'r cwrs hwn.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera arnoch.
MPLA0103AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.